Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Allington Hughes Law sydd unwaith eto wedi noddi’r goeden Nadolig anhygoel sydd ar Sgwâr y Frenhines.
Aeth y Amanda Davies, Rheolwr Canol Y Dre, Marchnadoedd a Digwyddiadau i gael golwg ar y goeden a chwrdd â staff o Allington Hughes Law. Meddai: “Mae’n goeden hyfryd ac mae bob amser wedi derbyn ymateb da ar ein cyfryngau cymdeithasol. I lawer ohonom mae gweld y goeden yn cyrraedd a throi’r goleuadau ymlaen yn ddechrau’r Nadolig a hoffwn ddiolch i Allington Hughes Law am ddod â chanolbwynt ein haddurniadau i ganol tref Wrecsam unwaith eto.”
Meddai Alison Stace, Rheolwr Gyfarwyddwr , Allington Hughes Law: “Rydym yn falch o gynnig ein cefnogaeth a noddi darn mor eiconig o wyliau’r Nadolig yn Wrecsam. Mae troi’r goleuadau ymlaen yn ddigwyddiad gwych y mae’r gymuned yn edrych ymlaen ato bob blwyddyn ac rydym yn hapus i ddarparu coeden hyfryd ar gyfer y dathliadau.
Disgwylir miloedd heno ar gyfer troi’r goleuadau ymlaen yn swyddogol sydd hefyd yn nodi dechrau siopa hwyr yng nghanol y dref.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Yn ogystal â phrynu goleuadau newydd rydym hefyd yn annog siopwyr i ganol y dref drwy gynnig lle parcio am ddim ym meysydd parcio canol y dref drwy gydol fis Rhagfyr a dechrau Ionawr.
Bydd groto Siôn Corn yn dychwelyd i sgwâr y Frenhines eleni ac yn agor ar 2 Rhagfyr gyda thocynnau yn £4.50.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.