Anogir pobl i alw heibio canol tref Wrecsam y mis hwn a gwneud y mwyaf o’r digwyddiadau dros gyfnod yr ŵyl, siopa a pharcio’n rhad neu am ddim.
Mae ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, gan gynnwys Groto Siôn Corn yn Nôl yr Eryrod a rhaglen orlawn yn Nhŷ Pawb.
Mae’r Farchnad Fictoraidd flynyddol hefyd yn dychwelyd ddydd Iau, 9 Rhagfyr, ar ôl colli dwy flynedd o achos pandemig Covid.
Bydd y digwyddiad- sy’n ymestyn o Sgwâr y Frenhines at Eglwys San Silyn- yn agor am 12 y pnawn, gyda dros 100 o stondinau yn gwerthu anrhegion, danteithion a bwyd wedi’i baratoi’n ffres, yn ogystal â diddanwyr stryd Fictoraidd a reidiau traddodiadol.
Bydd siopau a bwytai hefyd yn gobeithio am gyfnod prysur yn ystod mis Rhagfyr, a gall gyrwyr wneud y mwyaf o’r parcio am ddim ar ôl 11am ym meysydd parcio’r cyngor.
Cefnogi eich tref a chadw’n ddiogel
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Er mwyn helpu cefnogi busnesau canol tref, rydym wedi cynnig parcio am ddim ar ôl 11am yn y meysydd parcio sy’n cael eu rheoli gan y cyngor am rai misoedd nawr.
“Rydym yn parhau â hyn dros y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a dechrau’r flwyddyn nesaf, gan ei bod yn bwysig i ni gefnogi economi’r ardal leol wrth i’r Deyrnas Unedig ymgodi ar ôl pandemig y coronafeirws.
“Felly gwnewch y mwyaf o’r cynnig parcio, siopa yn Wrecsam a chefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn.
“Mae’n bwysig hefyd cofio gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac mae’n syniad da eu gwisgo mewn mannau prysur neu orlawn- y tu mewn a’r tu allan. Gadewch i ni gefnogi ein tref a chadw mor ddiogel â phosib dros gyfnod yr ŵyl.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi:
“Mae’n wych gweld y Farchnad Fictoraidd yn dychwelyd eleni, ac rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn dod i mewn i’r dref i fwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd- mae’n ddigwyddiad ardderchog.
“Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau eraill yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a bydd siopau a busnesau lleol hefyd yn edrych i groesawu cwsmeriaid a’u helpu â’u holl anghenion siopa ac anrhegion.
“Mae gan y dref gymaint i’w gynnig, ac rwyf yn annog pawb i gefnogi canol y dref a’n heconomi ardal leol cymaint â phosib.”
Am fwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau Nadolig, gweler wefan Cyngor Wrecsam.