Fe greodd preswylydd o Wrecsam a cherfiwr proffesiynol Simon O’Rourke hanes yr wythnos diwethaf, wrth iddo gerfio rhew yn y dref am y tro cyntaf yn ystod digwyddiad llwyddiannus yn Amgueddfa Wrecsam.
Fe gerfiodd y cerfiwr talentog gerflun o bengwiniaid o flaen cynulleidfa a oedd wedi’i mesmereiddio yn ystod un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn i’r amgueddfa.
“Mae’n ddigwyddiad gwych ac mae’n syniad da iawn. Dwi’m yn meddwl bod neb wedi gweld cerfio ia yn Wrecsam o’r blaen, felly mae hi’n braf gallu dangos rhywbeth newydd!” meddai Simon.
“Mae’n arbennig iawn. Dwi’n falch iawn fy mod wedi gallu cyflwyno rhywbeth sydd heb ei weld o’r blaen. Mae hi’n braf bod yn rhan o hynny a gallu creu hanes.”
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Gyda degawd o brofiad yn y diwydiant, mae Simon wedi bod yn cael effaith fawr gyda’i gelf yn y rhanbarth a thu hwnt ar draws y byd, ond adref i Wrecsam y daw bob amser.
“Cerfio pren ydi cefndir fy ngyrfa. Fe ddechreuais fel graddedig darlunio o Glyndŵr, yna fe symudais ymlaen i fod yn feddyg coed a dysgu sut i ddefnyddio’r lif gadwyn ac yna fe welais i rywun yn cerfio am y tro cyntaf… ac yna fe roddais gynnig arno a mwynhau’n fawr.
“Mae hi’n ddeng mlynedd bellach ers i mi ddechrau fel cerflunydd, ac mae hi wedi bod yn wych.
COFIWCH EICH BINIAU
Yn Yr Orsedd mae fy ngweithdy ac rydw i’n gwneud llawer o waith ym Mhlasau. Rydw i’n artist-breswylydd yn Erddig eleni a’r flwyddyn nesaf, felly mae hi’n wych dangos i bobl ei bod yn bosibl bod yn artist llawn amser a gwneud bywoliaeth gan wneud rhywbeth rydych chi’n ei garu.
Fe ddenodd y digwyddiad gynulleidfa fawr a chafodd ei gefnogi gan nifer o fusnesau lleol a’i noddi gan Wrexham Lager, a fuodd wrthi’n tywallt peintiau o’u fan yng nghwrt blaen yr adeilad.
Gan fod yr arddangosfeydd a’r caffi ar agor i’r cyhoedd gyda digonedd o weithgareddau i’r hen a’r ifanc eu mwynhau, cafodd llawer o bobl sydd ddim fel arfer yn cael y cyfle i fwynhau’r rhyfeddodau sydd gan yr amgueddfa i’w cynnig – gan gynnwys yr arddangosfeydd diweddaraf am archarwyr.
Mae’r amgueddfa ar agor trwy gydol y flwyddyn gyda digonedd o nodweddion newydd i gadw llygad amdanynt, gan gynnwys ‘Gwres y Gad’ sydd i’w weld tan 6 Ionawr 2018.
Gallwch ddilyn yr amgueddfa ar Facebook a Twitter
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.