Mae masnachwyr yn Arcêd y De wedi mynd i hwyl yr ŵyl gyda chymorth Wynne Construction sydd yn garedig iawn wedi gosod coeden Nadolig ynghyd â goleuadau ac addurniadau!
Mae gweithwyr Wynne Construction yn weithgar iawn ar y safle ar hyn o bryd yn trawsnewid hen Farchnad y Bobl yn ‘Tŷ Pawb’, cyfleuster celf a marchnadoedd ar ei newydd wedd, a fydd yn agor ei ddrysau ar ddechrau’r flwyddyn.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r arcêd yn edrych yn Nadoligaidd iawn a hoffwn ddiolch i
Wynne Construction am gyfrannu eu hamser a’u hymdrech i ymuno yn yr hwyl yma yng nghanol tref Wrecsam.
Dywedodd Alison Hourihane, Rheolwr Busnes a Datblygu Cymunedol: Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu rhoi coeden Nadolig i Arcêd y De, gan ledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl i’r rhodfa siopa. Hoffem ni ddiolch i berchnogion y siopau am eu hamynedd a’u cefnogaeth yn ystod datblygiad parhaus Tŷ Pawb.”
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.