Mae Gwasanaethau Chwarae Wrecsam yn ymuno ag artistiaid, beirdd a cherddorion i drawsnewid Sgwâr Henblas ar gyfer digwyddiad tridiau o chwarae trochi, creadigol a arweinir gan blant.
Bydd Chwarae-Geiriau yn cael ei gynnal ar 10, 11 a 12 Mai yng nghanol tref Wrecsam rhwng 11am a 5pm.
Bydd plant yn gallu cymryd yr awenau mewn amrywiaeth o weithgareddau chwarae creadigol gan gynnwys pwll tywod, amrywiaeth o rannau rhydd, deunyddiau adeiladu cuddfan, cyflenwadau celf a mwy.
Bydd gweithwyr chwarae gwych Wrecsam wrth law i ddarparu cefnogaeth. Mae croeso i bob plentyn ar yr amod eu bod yng nghwmni rhieni neu ofalwyr. Bydd nifer o gylchoedd ysgol a meithrin hefyd yn cymryd rhan.
Mae mynediad am ddim – nid oes angen archebu lle.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Cefnogi ein cais Dinas Diwylliant
Mae Chwarae Geiriau yn rhan o raglen enfawr o ddigwyddiadau cymunedol a gynhelir ar draws y fwrdeistref sirol i gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.
Mae’r digwyddiad wedi’i ddatblygu gan y bardd a’r actifydd lleol Evrah Rose, a Dave Acton o Larynx Entertainment yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam, Y Fenter ac Assemble Play – rhan o gydweithfa Assemble sydd wedi ennill gwobr Turner.
Mae’r artistiaid Dusk (Adam Pritchard), Georgina Caiger a Natalie Griffiths wedi’u comisiynu i greu celf stryd ar gyfer y digwyddiad, y bydd plant yn gallu cyfrannu ato.
‘Prifddinas chwarae’r DU’
Meddai Evrah Rose, bardd, awdur ac ymddiriedolwr maes chwarae antur Y Fentur ym Mharc Caia: “Rydym am i Chwarae Geiriau gynrychioli’r pethau cyffredin rhwng chwarae a’r celfyddydau – yn enwedig celf stryd a hip-hop y gellir eu hystyried yn ymylol.
“Rydyn ni eisiau codi’r arferion diwylliannol hyn oherwydd rydyn ni’n gwybod bod ganddyn nhw werth gwirioneddol o ran lles a hunanfynegiant.”
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Mae darpariaeth chwarae unigryw Wrecsam a meysydd chwarae antur wedi’u hamlygu fel agwedd allweddol o gais y sir ar gyfer Dinas Diwylliant yn 2025.
“Rydym yn gweld ein hunain fel prifddinas chwarae’r DU. Mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y gwaith chwarae arloesol sy’n digwydd yma ac yn rhoi cipolwg ar weledigaeth ar gyfer dyfodol chwarae yn Wrecsam.”
Darganfod mwy
I weld yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod ac i ddarganfod mwy am ein cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 ewch i wefan Wrecsam2025 a dilynwch yr hashnod #Wrecsam2025 ar gyfryngau cymdeithasol.
Delwedd trwy garedigrwydd Assemble Play.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH