O’r crys cyntaf rydych wedi bod yn berchen arno yn blentyn i’r copi tîm clwb neu genedlaethol diweddaraf, mae cefnogwyr pêl-droed yn caru crysau pêl-droed. Mae rhai yn cael eu hystyried yn glasuron dyluniad erbyn hyn, eraill ddim. Ond mae gan y cyfan le yn y gêm a chwedl i’w hadrodd. Mae Chwedlau’r Crysau yn rhoi cipolwg o hanes y gêm yng Nghymru.. a chyrchfan i bawb o bob man sy’n caru crysau pêl-droed.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Chwedlau’r Crysau’n adrodd hanes pêl-droed Cymru drwy’r crysau dethol sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru a rhai ar fenthyg gan unigolion preifat. Mae’r detholiad yn amlygu stori pêl-droed dynion a merched, ar lefel genedlaethol a lefel clybiau. Wedi’i hamseru i gyd-fynd â’r paratoadau at Gwpan y Byd yn Qatar, mae’r arddangosfa’n cynnwys:
- Crys a wisgwyd gan Alan Harrington yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1958.
- Crys o unig ymddangosiad Cymru hyd yma yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym 1958.
- Crysau Cymru o ymgyrch rhagbrofol 2022.
- Crys a wisgwyd yn y gêm ryngwladol gyntaf swyddogol i ferched Cymru yn 1993.
- a chrysau retro o dimau gorau Cymru: Wrecsam, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a Sir Casnewydd.
Dywedodd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol, Partneriaethau ac Amgueddfeydd: “Ar ôl aros am 64 mlynedd, mae Cymru wedi cael lle yn nhwrnamaint terfynol Cwpan y Byd i’w chwarae yn ddiweddarach eleni. “Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle gwych i gefnogwyr pêl-droed fwynhau gweld eitemau cofiadwy o’n timau rhyngwladol dynion a merched – trwy’r crysau sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru.”
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chadeirydd Grŵp Llywio Amgueddfa Pêl-droed i Gymru “Mae’r arddangosfa gyffrous hon yn gyntaf o nifer o ddigwyddiadau y bydd Wrecsam – cartref ysbrydol Pêl-droed Cymru yn eu cynnal i ddathlu pwysigrwydd y gêm yn hanes Cymru a Wrecsam.”
Mae Chwedlau’r Crysau yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ysbrydolwyd gan grysau pêl-droed i deuluoedd ac unrhyw oedolyn a hoffai ddylunio eu crys pêl-droed eu hunain.
Mae’r arddangosfa ar agor nawr i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.
Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 4.30 p.m a dydd Sadwrn 11am tan 3.30 p.m.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH
Twitter: @amgueddfeyddwxm @FootyMuseumWal @wrexhammuseums
Facebook: Amgueddfa Bêl-droed Cymru / Football Museum Wales
Instagram: footballmuseumcymru
#chwedlaucrysau #shirtstorieswxm