Wrth i Galan Gaeaf nesáu, efallai y byddwch yn chwilio am bwmpen neu ddwy i’ch plentyn gerfio i greu llusern ac efallai y gallai Prosiect Gardd Fictorianaidd Erlas eich helpu.
Maent yn cael diwrnod agored ar 21 Hydref er mwyn i’r cyhoedd brynu pwmpenni sydd wedi eu tyfu yn yr ardd a defnyddir yr arian a godir i gefnogi’r prosiect ei hun.
Dechreuodd Prosiect Gardd Furiog Fictorianaidd Erlas yn y 2000au cynnar gan grŵp a oedd yn dymuno hyrwyddo lles, sgiliau a chyflogadwyedd y rhai oedd eu hanableddau yn eu hatal rhag cael mynediad i gyfleoedd bob dydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Cawsant gyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a helpodd Cyfleoedd Gwaith Wrecsam, Coleg Garddwriaeth Cymru, Mencap Cymru a Fforwm Anableddau Wrecsam i greu “Prosiect Gardd Erlas.”
Arweiniodd rhagor o gyllid at raglen adfer o bwys a gwblhawyd ym mis Medi 2006 lle chafodd ardal wyllt a oedd wedi mynd yn angof ei thrawsnewid gan adfer muriau ymyl, ailadeiladu adeiladau gardd, adeiladu tŷ gwydr gyda ffrâm bren o Dderw Cymreig ac adeilad addysg newydd.
Ers hynny, mae gwirfoddolwyr a buddiolwyr wedi clirio 1.3 hectar o dir i greu ardal fywyd gwyllt sy’n cynnwys gardd fawnog, maent wedi creu llwybrau drwy ardaloedd coediog ac wedi creu bocsys a chuddfannau adar ac ystlumod. Mae yna hefyd bellach lwybr natur, perllan, ardal hadau o darddiad lleol a phwll.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect hefyd wedi derbyn cyllid gan gyfamod y Lluoedd Arfog ac wedi cefnogi nifer o gyn-filwyr i gael profiad gwerthfawr a chefnogi eu trosglwyddiad yn ôl i’r gymuned sifilaidd.
Mae croeso i chi gefnogi’r prosiect gwerth chweil hwn a phrynu pwmpen wedi ei thyfu yn Wrecsam.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI