Mae’r Cynghorydd John Pritchard, ein Haelod Arweiniol newydd dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-Dlodi wedi mynd i’r afael â’i bortffolio newydd a chyfarfod staff ac ymweld â chyfleusterau ar draws y fwrdeistref sirol.
Dechreuodd ei rôl newydd ym mis Rhagfyr, ac ers hynny mae wedi ymweld â chyfleusterau hamdden gan gynnwys y Byd Dŵr a’r Waun, gyda’r bwriad o ymweld â phob un yn yr wythnosau nesaf, gan gynnwys y cyfleusterau deuol yng Nghlywedog, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Darland ac Ysgol Rhiwabon.
Roedd ymweld â’r Byd Dŵr yn arbennig o ddiddorol i’r Cyng. Pritchard gan ei fod yn cofio gweithio ar y system drydanol pan adeiladwyd yr adeilad 50 mlynedd yn ôl.
Meddai: “Mae’n anodd credu bod 50 mlynedd ers i mi fod yn rhan o adeiladu’r adeilad. Roedd yn leoliad gwych bryd hynny, ac yn dal i fod hyd heddiw. Mae’r cyfleusterau o safon uchel iawn ac rwy’n gwybod bod trigolion o bob oed yn ei ddefnyddio.”
Yn ogystal â Hamdden, mae ei rôl fel Aelod Arweiniol hefyd yn cynnwys Llyfrgelloedd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid, Darpariaeth Chwarae a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Ychwanegodd: “Mae’n bortffolio hynod o ddiddorol a heriol a byddaf yn ymweld â mwy o gyfleusterau ac yn cyfarfod staff dros yr wythnosau nesaf.”
Gallwch ddarllen y gwaith mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ei gyflawni yn yr erthygl isod:
Our ‘outstanding’ YJS team helps young people stay out of trouble
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN