Yn ddiweddar rydym ni wedi cwblhau adeiladu ein datblygiad cyntaf o dai cyngor ers 1991.
Wedi saib o 30 mlynedd roeddem yn gallu dechrau adeiladu gyda chyllid o’r Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Fforddiadwy gan Lywodraeth Cymru.
Mae 14 eiddo wedi eu hadeiladu ar gyn safle cartref gofal Nant Silyn.
Mae’r eiddo yn cynnwys 8 x fflat ag 1 ystafell wely, 4 x tŷ â 2 ystafell wely, 1 x byngalo wedi ei addasu â 2 ystafell wely ac 1 x byngalo ar gyfer unigolyn oedrannus ag 1 ystafell wely.
Mae’r eiddo eisoes wedi ei ddyrannu i denantiaid, a rhai wedi symud i mewn yn barod.
Mae’r cartrefi yn fodern ac yn cynnwys y cyfarpar ddiweddara, gyda band eang Ffibr ar gael i’r tenantiaid gysylltu iddo. Mae’r tai a byngalos newydd hefyd yn cynnwys paneli solar a storfa batri er mwyn cefnogi lleihau costau ynni.
Mae byngalo wedi ei addasu â 2 ystafell wely wedi ei greu ar gyfer gofynion tenantiaid penodol a fydd yn darparu ystafell ymolchi â chawod gyda mynediad lefel isel, a chegin sy’n codi a gostwng.
Mae’r datblygiad hwn o 14 o gartrefi ym Mhont Wen yn nodi dechrau ein prosiectau adeiladu, gyda safle ym Mhlas Madoc eisoes wedi dechrau.
Mae gennym ddau brosiect arall ar y gweill yn cynnwys 6 fflat ag 1 ystafell wely yn Johnstown, 4 fflat 1 ystafell wely y tu ôl i Tir Y Capel yn LLay. Mae hwn yn rhan o’n rhaglen ailwampio ein tai gwarchod, ar y cyd gydag edrych am waith i ddatblygu yn y dyfodol.
Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rwy’n fwy na bodlon â’r ansawdd. Mae’n gosod y safon ar gyfer popeth arall. Mae Wrecsam wedi ymgymryd á’r her, a’r bobl sydd wedi elwa yw pobl yn y gymuned.”
Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cyng. Mark Pritchard: “Fel arweinydd Cyngor Wrecsam dwi wrth fy modd wrth weld datblygiad Clos Nant Silyn yn dechrau ein rhaglen o adeiladu cartrefi, ochr yn ochr i’n hymrwymiad parhaus i ailwampio ein tai hŷn.Yn gynharach eleni, cyfarfu Bwrdd Gweithredol y Cyngor a chymeradwyo Cynllun Busnes Y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn caniatáu i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £58.9 miliwn mewn stoc tai Cyngor o dros 11,000 o eiddo drwy gydol blwyddyn ariannol 2021-22.2
Dywedodd Y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol I Oedolion: “Mae’n wych gweld y prosiect yma yn cael ei wireddu. Dim ond rhan o’n hymrwymiad parhaus yw hyn, i ddarparu cartrefi sy’n cael eu rheoli yn dda, yn weddus ac yn gynnes gyda chyfleusterau modern, sy’n darparu cartrefi gydol oes i’n tenantiaid.”
Dywedodd Miss J, preswylydd a fydd yn symud i fyw i’r byngalo sydd wedi ei addasu a’i ddylunio yn arbennig ar gyfer ei hanghenion: “Mae’n anhygoel, rwyf wedi gwylio’r byngalo yn cael ei adeiladu o’r diwrnod cyntaf. Mae pawb wedi bod yn wych gyda mi, rwyf wedi fy nghynnwys o’r dechrau, felly rwy’n gwybod y bydd yn addas ar gyfer fy anghenion corfforol. Mae hyn yn newid bywyd i mi, mae gennyf fab 4 oed, a golygai y gallaf fod yn fwy annibynnol gydag ef, alla i ddim disgwyl.”
Dywedodd Miss G, preswylydd sydd yn symud i gartref llai: “Alla i ddim disgwyl i symud i mewn i fy nghartref newydd. Rwyf wedi bod yn byw mewn tŷ â 3 ystafell wely sydd rhy fawr i mi ers blynyddoedd a thalu treth ystafelloedd gwely. Rwyf yn edrych ymlaen, mae am wneud gwahaniaeth mawr i mi.”
Dywedodd Cynghorydd Ward Smithfield, Adrienne Jeorrett: “Rwyf wedi rhyfeddu â’r ansawdd, rwyf mor falch. Mae gan bawb yr hawl i gartref addas. Mae’r holl beth yn wych, ac yn digwydd yma nawr, ardderchog!”
Mae ein rhaglen ailwampio tai gwarchod hefyd wedi dechrau, a chyda buddsoddiad sylweddol i nifer o gynlluniau dros y blynyddoedd nesaf, mae gwaith wedi dechrau yn Nhir-y-Capel yn Llai a Llys y Mynydd yn Rhos.
Isod. Lluniau o Nant Silyn wedi ei chwblhau, ac wrth i waeth mynd ymlaen
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN