Mae cnoc ar y drws.
Dyn sydd yno.
Mae wedi parcio ei fan y tu allan i’ch tŷ.
Mae’n cynnig gwerthu matres i chi.
Mae’n ymddangos yn fargen dda.
Mae’n llawer rhatach na’r un yr oeddech chi’n ystyried ei phrynu.
Ond mae rheswm dros hyn…
Rydym wedi cael gwybod am bobl sy’n gwerthu matresi o gefn faniau o amgylch Wrecsam, ac mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol mai twyll yw hyn.. peidiwch â chael eich temtio i wneud camgymeriad mawr.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Peryglu bywydau
Nid yw’r matresi hyn fel y maent yn ymddangos. Weithiau, mae’r fatres a gaiff ei chynnig i chi wedi’i gwneud o hen sbringiau ac wedi’i llenwi â defnydd budr, er bod y fatres yn ymddangos yn grêt o’r tu allan.
Neu efallai bod y fatres wedi’i chynhyrchu am llai na £50 gan ddefnyddio sbringiau sylfaenol iawn â phad ffibr polyester neu haen o ewyn rhad drosto, ac wedi’i gorchuddio â defnydd rhad… os ydych chi’n lwcus.
Y naill ffordd neu’r llall, gallwch fod bron yn sicr nad ydynt wedi derbyn profion i asesu a ydynt yn bodloni rheoliadau hylosgedd matresi’r DU… ac rydym ni’n siŵr nad oes arnoch chi eisiau rhoi eich hun na’ch teulu mewn perygl angheuol fel hyn.
“Cynnyrch o ansawdd gwael”
Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Os bydd rhywun yn cnocio ar eich drws yn cynnig gwerthu matres i chi, gellir bod yn eithaf sicr bod ansawdd y matresi hyn yn wael iawn ac nad ydynt wedi derbyn prawf yn erbyn rheoliadau hylosgedd matresi’r DU.
“Gellir bod yn eithaf sicr hefyd bod y fatres wedi’i chynhyrchu am ffracsiwn o’r ‘fargen’ neu’r pris ‘gwych’ y maent yn ei gynnig i chi, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol am y math hwn o dwyll fel nad ydych chi’n cael eich dal allan.”
Credadwy iawn
Gall y bobl sy’n gwerthu’r rhain ymddangos yn gredadwy iawn hefyd – mae ganddynt enwau cwmni tebyg iawn i’r brandiau poblogaidd, a logos sy’n ymddangos yn broffesiynol ar eu faniau a’u crysau polo – ond nid yw’r cynnyrch hyn fel y maent yn ymddangos.
Os byddant yn synhwyro nad ydych chi’n sicr, byddant yn ceisio eich perswadio eu bod yn gwmni dilys a’u bod yn gwerthu stoc dros ben o siop sydd wedi cau neu o archeb a gafodd ei ganslo.
Mae’n bosibl y bydd y matresi wedi’u pecynnu mewn plastig ac yn ymddangos yn smart ac yn ddilys gyda labeli yn dangos y prisiau manwerthu a argymhellir, ond nid yw’r matresi hyn fel y maent yn ymddangos.
Cofiwch os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o 🙂
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU