Mis Chwefror bob blwyddyn yw Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Trawsrywiol a Deurywiol pan gaiff bywydau a llwyddiannau’r gymuned LGBT+ eu dathlu.
Rydym yn sefyll i fyny dros gydraddoldeb ac amrywiaeth gydol o flwyddyn, ond mae’r digwyddiad arbennig hwn, sy’n para drwy fis Chwefror, yn gyfle penodol i godi ymwybyddiaeth o achosion LGBT+.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl o gymunedau LGBT yn fwy tebygol o brofi anawsterau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder a bod mwy o berygl y byddant yn gwneud niwed iddynt eu hunain o ganlyniad i ragfarn yn erbyn eu hunaniaeth. Mae llawer yn ofni diarddeliad ac erledigaeth.
Fel arwydd o’i gefnogaeth i Fis Hanes LGBT bydd y cyngor yn codi Baner yr Enfys y tu allan i Neuadd y Dref.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL