Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lleY cyngor

Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach

Diweddarwyd diwethaf: Medi 19, 2019 4:21 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
RHANNU

75 mlynedd yn ôl i heddiw (19.09) bu farw peilot ifanc, ynghyd â nifer o’i griw awyr, wrth gymryd rhan mewn ymgyrch i ddanfon nwyddau hanfodol i filwyr yn ystod Brwydr Arnhem.

Enw’r peilot yma oedd Awyr-Lifftenant David Lord, a fu’n byw yn Wrecsam cyn symud i Lundain yn 1930. Aeth i Ysgol Elfennol y Santes Fair a bu’n gweinio wrth yr allor yng nghadeirlan Gatholig y dref cyn gweithio fel cymhorthydd ffotograffydd.

Roedd David a’i griw yn rhan o ymgyrch i ollwng nwyddau hanfodol i filwyr ar y tir ac er bod ei awyren wedi’i difrodi’n ofnadwy ac yn cael ei saethu’n ddi-baid bu iddo barhau â’i genhadaeth a gollwng yr holl nwyddau gofynnol. Wedi gollwng y nwyddau bu iddo barhau wrth y llyw a gorchymyn bod ei griw yn gadael yr awyren. Yn anffodus bu i’r awyren Dakota gwympo yn fuan wedyn a bu i David a’i holl griw namyn un golli eu bywydau.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Bu i’w ddewrder i sicrhau bod y nwyddau yn cyrraedd y milwyr arwain at ddyfarnu Croes Fictoria iddo ar ôl ei farwolaeth. Y wobr uchaf a’r mwyaf clodfawr yn system anrhydedd Prydain. Caiff ei rhoi am wroldeb yng ngwŷdd y gelyn i aelodau o Luoedd Arfog Prydain.

I gofio’r digwyddiad hwn codwyd cofeb ar Ffordd Grosvenor a bu i’w frawd hedfan dros y digwyddiad i dynnu lluniau o’r tyrfaoedd a oedd wedi ymgasglu. Yn ddiweddarach, symudwyd y gofeb i’r Neuadd Goffa – ac yno y mae hyd heddiw.

Gallwch weld copi o’r ffotograff o’r awyr isod.

Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach

I gofio am ddewrder y peilot hwn comisiynwyd panel graffig i’w osod wrth ymyl y gofeb, a gafodd ei ddadorchuddio heddiw gan Gomodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru y Llu Awyr Brenhinol.

Mae’r panel yn egluro i ymwelwyr pam bod y gofeb mor bwysig ac mae hi’n arbennig o berthnasol i ni yn 2019 gan ein bod ni’n cofio 80 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd a 100 mlynedd ers llofnodi’r cyfamodau heddwch wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gallwch weld y panel ar y wal y tu allan i’r Neuadd Goffa, i’r chwith ger y fynedfa.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Mae dewrder Awyr-Lifftenant David Lord VC yn dangos ei fod yn llawn haeddu’r anrhydedd fwyaf sydd i’w chael yn y wlad hon. Bu iddo hedfan dros y man gollwng ddwywaith i sicrhau bod nwyddau hanfodol yn cyrraedd y milwyr ar y tir. Gyda’r saethu di-baid a gorfod hedfan yn isel, mae’n rhaid ei fod yn gwybod bod y cyfan ar ben arno ond, gyda dewrder, bu iddo barhau â’i genhadaeth. Mae’r gweithredoedd hyn yn rhai go arbennig ac mae’r ffaith bod Croes Fictoria wedi’i gwobrwyo iddo wedi’i farwolaeth yn rhywbeth i ni ymfalchïo ynddo yma yn Wrecsam. Mae’n rhaid i ni gofio ein bod ni bryd hynny a hyd heddiw mewn dyled fawr o ddiolch i’r lluoedd arfog.”

Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru: “Mae’n anrhydedd bod yma yn Wrecsam heddiw i ddadorchuddio’r panel hwn fel rhan o’r gofeb i Awyr-Lifftenant David Lord VC. Bu iddo wasanaethu ei wlad a’r Llu Awyr Brenhinol gyda dewrder ac mae’n bwysig nad ydym ni’n anghofio ei awyrenwriaeth wrol dros Arnhem 75 mlynedd yn ôl. Mae gweithredoedd David Lord yn ysbrydoli criwiau awyr y Llu Awyr Brenhinol hyd heddiw. Hoffaf hefyd ddiolch i bobl Wrecsam am helpu i barhau’r cof am wasanaeth a gwroldeb David Lord, ac rydych chi wedi llwyddo i wneud hynny mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd, gan gynnwys ychwanegu’r panel graffig hwn heddiw. Diolch Wrecsam”.

Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach

Talwyd am y panel drwy Gronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog, a chafwyd hefyd arian i ailwampio’r Neuadd Goffa.

Dyma’r geiriau sydd ar y panel:

“Ar 19 Medi 1947 ymgasglodd torfeydd ar gyffordd Ffordd Grosvenor a Stryt Y Rhaglaw i wylio dadorchuddiad cofeb (a welir i’r dde ohonoch) i’r Awyr-Lefftenant David Lord. Roedd yn dair blynedd i’r dydd ers iddo gael ei ladd yn ystod Brwydr Arnhem.

Symudodd David Lord i Wrecsam yn blentyn lle y mynychodd Ysgol Elfennol y Santes Fair. Gwasanaethodd wrth allor cadeirlan Gatholig y dref, gan weithio’n ddiweddarach fel cynorthwyydd i ffotograffydd. Ymunodd â’r Awyrlu Brenhinol ym 1936, gan hyfforddi yn beilot a chymhwyso ym 1939. Enillodd brofiad ar Ffin Ogledd Orllewinol India, hedfanodd mewn cyrchoedd dros Irac a Syria a goroesi cael ei saethu i lawr yng Ngogledd Affrica. Cafodd ei wobrwyo â’r Groes am Hedfan Neilltuol am sawl cyrch beryglus a gwblhaodd wrth drosglwyddo cyflenwadau i’r Chinditiaid, y lluoedd Prydeinig y tu ôl i linellau’r gelyn yng nghoedwigoedd Bwrma.

Dychwelodd Lord i Brydain yn Ionawr 1944 ac ymuno â Sgwadron Rhif 271, a oedd wrthi’n paratoi ar gyfer glaniadau Normandi fel rhan o Operation Overlord. Bu’n brwydro dros Normandi yn ystod Mehefin 1944 gan ennill Cymeradwyaeth y Brenin.

Yn ystod Operation Market Garden cafodd ei sgwadron yr orchwyl o ollwng milwyr mewn gleiderau i Arnhem, a chyflenwi Rheng Gyntaf yr Awyrlu Prydeinig. Ei weithredoedd ar 19 Medi 1944 yn ystod ei hediad olaf a sicrhaodd fod cyflenwadau yn cyrraedd y milwyr Prydeinig a oedd dan bwysau mawr a enillodd iddo Groes Fictoria.

Mae’r Awyr-Lefftenant David Lord wedi ei gladdu gyda’i griw ym Mynwent Oosterbeek ger Arnhem yn yr Iseldiroedd.”

Gallwch ddysgu mwy am Awyr-Lifftenant David Lord VC yn Heart of a Dragon: The VCs of Wales and the Welsh Regiments, 1914-82, gan Alister Williams. Mae ei Groes Fuddugoliaeth wedi’i chadw yng nghasgliad yr Arglwydd Michael Ashcroft (https://www.lordashcroftmedals.com/ – dolen gyswllt i wefan Saesneg) yn Amgueddfa Ryfel Imperialaidd Llundain. Mae’r groes yn un o nifer sydd ar ddangos yn yr oriel dan nawdd yr Arglwydd Ashcroft. Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa Extraordinary Heroes yn Oriel yr Arglwydd Ashcroft ewch i www.iwm.org.uk/heroes (dolen gyswllt i wefan Saesne).

Mae yna hefyd fywgraffiad ar gael: FLIGHT LIEUTENANT DAVID LORD, VICTORIA CROSS: AN ARNHEM HERO, gan James Patrick Hynes.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Teaching Assistant Job Children Work Eisiau gweld mwy o’n swyddi diweddaraf? Dewch i gael golwg yma…
Erthygl nesaf Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English