Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/19 at 4:54 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored
RHANNU

Gyda gwyliau’r haf drosodd a’r tymor yn ôl i’r ysgol yn dod i ben, mae’n debyg nawr mai’r ysgol yw un o’r ychydig bethau ar feddyliau rhieni a gwarchodwyr.

Ond os oes gennych blentyn yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, mae nawr yn amser da i ddechrau meddwl am ddewisiadau wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg.

Mae derbyniadau yn agored ar hyn o bryd i holl ysgolion uwchradd ym mwrdeistref sirol Wrecsam – ac os bydd eich plentyn yn 11 oed cyn 31 Awst 2020 byddant yn gymwys i wneud cais.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Gallwch wneud cais ar wefan Cyngor Wrecsam mae ein  porth derbyniadau nawr yn fyw

Neu mae ceisiadau ar bapur hefyd ar gael gan Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG a gellir eu dychwelyd i Derbyniadau Ysgol, Stryt Lampint, Wrecsam LL11 1AR.

Mae’r cyfnod derbyniadau ar gyfer ysgolion uwchradd nawr yn agored, a bydd yn cau ddydd Gwener, 8 Tachwedd 2019 – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais eich plentyn cyn y dyddiad cau.

Y dyddiad cau ar gyfer apeliadau yw dydd Iau, 19 Mawrth 2020.

Bydd ein hysgolion uwchradd yn cynnal eu noson agored yn ystod yr wythnosau nesaf – felly os ydych yn edrych ar ddewisiadau, gallant fod yn gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr a phlant ymweld â’r ysgolion a chael syniad o sut le ydynt.

Ewch i’n gwefan a gweld manylion ysgolion a dyddiadau eu dyddiau agored

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddfa Derbyniadau ar 01978 298991

“Rydym yn dymuno ei wneud mor hawdd â phosibl”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym yn gwybod y bydd rhieni a gwarchodwyr yn dechrau edrych ar opsiynau i’w plant wrth iddynt feddwl am gam nesaf eu haddysg, a gall symud o addysg gynradd i lefel uwchradd fod yn eithaf brawychus – felly rydym eisiau sicrhau bod y broses mor llyfn a rhwydd â phosibl.

“Felly, byddwn yn annog unrhyw un sy’n awyddus i dechrau’r broses ymgeisio  wneud hynny ar lein ar ein gwefan

Bydd y cam derbyniadau ar gyfer ysgolion cynradd yn agor yn nes ymlaen y mis hwn, o ddydd Llun, 30 Medi 2019 tan ddydd Gwener, 22 Tachwedd 2019.

Bydd gennym fwy o fanylion ar y ceisiadau ysgolion cynradd unwaith y bydd y cam derbyniadau wedi agor.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach Cofio David Lord VC, DFC, 75 mlynedd yn ddiweddarach
Erthygl nesaf Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English