Os ydych chi’n mynd i wylio Clwb Pêl-droed Wrecsam yn y Cae Ras y tymor hwn, cofiwch am y gwasanaeth parcio a theithio o Ffordd Rhuthun!
Bydd y gwasanaeth bws o Ffordd Rhuthun yn rhedeg bob 20 munud i Ffordd yr Wyddgrug i’r stadiwm.
Ar ôl y gêm, bydd bysus yn gadael yr A541 Ffordd Ganolog tra bod Ffordd yr Wyddgrug ar gau, yna bob 20 munud gyferbyn â’r stadiwm ar Ffordd yr Wyddgrug unwaith y bydd y ffordd wedi ailagor a chefnogwyr wedi gadael y stadiwm.
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am amser dechrau a gorffen pob gêm.
Cewch barcio yn Ffordd Rhuthun am ddim, a’r prisiau Parcio a Theithio yw £1 i oedolion a 50c i blant a phobl ifanc. Derbynnir pasys consesiynol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod arweiniol dros dai a newid hinsawdd: “Mae mwy a mwy o gefnogwyr yn dechrau dilyn Clwb Pêl-droed Wrecsam, sy’n newyddion gwych i’r clwb a’r ddinas ond hefyd yn cynyddu’r galw am barcio ar ddiwrnod gêm.
“Y tymor hwn, bydd Cyngor Wrecsam yn parhau i weithio gydag Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru i weithredu gwasanaeth bws gwennol pwrpasol i ategu’r cyfleuster parcio diwrnod gêm presennol sydd ar gael yn ein safle ar Ffordd Rhuthun.
“Gyda’r gwasanaeth hwn rydyn ni’n anelu at leihau tagfeydd traffig a chynnig parcio cyfleus ar ddiwrnod gêm.”
