Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Diweddarwyd diwethaf: Awst 8, 2025 12:53 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Family Teulu
RHANNU

Yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam, cytunwyd ar gymorth ariannol ychwanegol i gefnogi gofalwyr maeth yn Wrecsam.

Bydd pob Gofalwr Awdurdod Lleol Wrecsam cymeradwy bellach yn cael gostyngiad treth gyngor o 100% yn hytrach na’r 75% y cytunwyd arno’n flaenorol (daeth hyn i rym ar 8 Gorffennaf, 2025).

Pwy sy’n gymwys i gael y cymorth ariannol hwn?

Byddai’r cynnydd yng ngostyngiad y dreth gyngor ar gael i’r gofalwyr isod a gymeradwywyd gan Gyngor Wrecsam:

  • gofalwyr maeth cysylltiedig (perthnasau)
  • gofalwyr maeth awdurdod lleol
  • gofalwyr maeth therapiwtig yr awdurdod lleol
  • gofalwyr maeth “Pan Fydda i’n Barod”
  • gofalwyr gwarchodaeth arbennig
  • lletywyr llety â chymorth
  • gofalwyr maeth a gymeradwywyd yn barod o asiantaethau maethu annibynnol sy’n trosglwyddo i Wrecsam i fod yn ofalwyr maeth yr awdurdod lleol

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd:  “Mae hwn yn newid enfawr a chadarnhaol i’r gwasanaeth hwn ac yn dangos yr hyn rydyn ni’n fodlon ei wneud i recriwtio a chadw gofalwyr maeth.

“Y nod yw cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol. Bydd cael mwy o ofalwyr maeth mewnol hefyd yn golygu paru gwell ac, yn ei dro, mwy o sefydlogrwydd i’n plant. Pwrpas y newid hwn, ar wahân i wella’r broses o recriwtio gofalwyr maeth, yw annog gofalwyr maeth presennol sydd wedi cofrestru gydag Asiantaethau Maethu Annibynnol ar hyn o bryd i symud i dîm Maethu CBSW.

“Y gobaith yw y bydd hyn hefyd yn arwain at arbedion ariannol gan y bydd yn lleihau ein dibyniaeth ar leoliadau annibynnol drud, sy’n aml y tu allan i’r sir. Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu lletywyr llety â chymorth nad oeddent yn gymwys ar gyfer y gostyngiad yn flaenorol.”

O ganlyniad, bydd ein gofalwyr maeth mewnol nawr yn derbyn gostyngiad o 100% ar eu biliau treth gyngor. Yn ogystal â’r gostyngiad yn y dreth gyngor, bydd Gwasanaeth Maethu Wrecsam yn parhau i ddarparu cymhellion ariannol allweddol fel cyflogau uwch i ofalwyr maeth medrus a phrofiadol a’r gofalwyr llawn amser hynny sy’n gofalu am blant sy’n gadael gofal preswyl neu sydd mewn perygl o fynd i mewn i ofal preswyl.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, siaradwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam ar 01978 295316 neu anfonwch e-bost at fostering@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Exterior of Wisteria Court Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Erthygl nesaf ruthin road Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English