Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 20, 2019 4:05 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb
RHANNU

I ddathlu 10 mlynedd ers yr arysgrif ar Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte ac 11 milltir o gamlas fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae nifer o brosiectau celf wedi’u cynnal ar draws yr ardal yn 2019, gan ddefnyddio’r tirlun a’r dreftadaeth fel ysbrydoliaeth.

Mae’r Prosiect Tirlun Darluniadwy yn canolbwyntio ar dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte Mae’n defnyddio’r thema o deithiau ysbrydoledig, ac yn parhau i fod yn nodwedd yn yr ardal y mae’r gamlas, A5 Telford a’r Afon Dyfrdwy yn torri ar ei thraws. Mae ymwelwyr wedi cael eu hysbrydoli gan y dyffryn hyfryd hwn i greu celf a barddoniaeth ers y deunawfed ganrif, ac mae’n parhau i atynnu twristiaid sydd yn chwilio am y dyrchafedig.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae’r tirlun dan bwysau cynyddol gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu hatynnu at safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau ar stepen y drws, wedi’u magu gan y genhedlaeth diwydiant a’i lluniodd, wedi’u cysylltu’n llai i fuddion y mae’r tirlun yn ei gynnig.

Bydd y prosiect pum mlynedd hwn yn buddsoddi mewn atgyfnerthu safleoedd allweddol i ymwelwyr ac yn ymgysylltu â chymunedau, i werthfawrogi a rheoli gan ail-ddehongli’r tirlun ar gyfer y genhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi’u datblygu o dan 3 thema – Cadw’r Tirlun Darluniadwy, Mynediad at Dirlun Darluniadwy a Phobl a’r Darluniadwy.

Ariennir y Prosiect Tirlun Darluniadwy gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol. Mae’n brosiect partneriaeth a ddatblygwyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Swydd Amwythig, Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd, Aqueducks (Cyfeillion Safle Treftadaeth Y Byd) a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae modd gweld y gwaith celf wych a grëwyd gan bobl leol mewn arddangosfa arbennig yn Tŷ Pawb yn Wrecsam tan ddydd Sul, 5 Ionawr.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Top 5 Five Blogs Ein 5 prif flogiau ailgylchu yn 2019
Erthygl nesaf Testun Ychwanegol BBN Testun Ychwanegol BBN

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English