Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Testun Ychwanegol BBN
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Testun Ychwanegol BBN
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Testun Ychwanegol BBN

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 20, 2019 3:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Testun Ychwanegol BBN
RHANNU

Pan fyddwch yn cerdded i fewn i dafarn yn Wrecsam ac yn gweld yr arwydd Braf Bob Nos, mae’n golygu eich bod newydd gamu i mewn i leoliad sydd wedi’i achredu gan Braf Bob Nos (BBN) Wrecsam.

Mae pob lleoliad BBN wedi rhoi eu safleoedd ar brawf er mwyn profi pa mor ymrwymedig ydynt i’ch cadw chi yn fwy diogel ar eich noson allan.

Mae Braf Bob Nos Wrecsam yn rhan o gynllun gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer lleoliadau nos, sydd wedi ei greu i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel tra’n cydnabod rhagoriaeth o fewn y diwydiant trwy ‘archwiliad trwyadl’ sy’n manylu ar dros 120 o feini prawf – a’r rheiny yn cynnwys popeth o reolaeth gyfrifol a diogel i ofal cwsmeriaid.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Anogir ymddygiad cyfrifol gan ddeiliaid trwyddedau sy’n cymryd rhan. Fe’u hanogir hefyd i gymryd balchder yn eu safleoedd a’r hyn sydd o’u cwmpas a thrwy wneud hynny, cyfrannu yn ôl i’w trefi a’u cymunedau lleol. Daw’r cynllun i uchafbwynt blynyddol mewn seremoni wobrwyo sydd yn dathlu’r hyn y mae’r holl leoliadau wedi ei gyflawni.

Rhedir y cynllun mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae ganddo’r nod o geisio lleihau nifer y digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol trwy godi safonau tai trwyddedig ac adeiladu perthnasau cadarnhaol rhwng yr holl randdeiliaid, gan gynnwys gweithredwyr tai trwyddedig a’u staff.

Caiff yr holl leoliadau sy’n rhan o Gynllun Gwobrau Braf Bob Nos eu harchwilio gan aseswyr hyfforddedig ac, os yn llwyddiannus, byddant yn dod yn aelod achrededig o’r cynllun gan ennill gwobr Aur, Arian neu Efydd. Caiff y lleoliadau gorau wedyn eu beirniadu gan banel annibynnol sydd yn dewis yr enillwyr ym mhob adran.

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae ein deiliaid trwyddedau yn cymryd diogelwch a gofal cwsmeriaid o ddifri, ac yn darparu safon gyson sydd yn cefnogi rheoliadau, polisïau ac arferion gorau mewn Trwyddedu. Bydd pob lleoliad a dderbyniodd achrediad bellach yn arddangos y tystysgrifau Braf Bob Nos ar eu lleoliad, fel y gallwch fod yn sicr y cewch ymweliad diogel a dymunol pan fyddwch yn eu gweld”.

Mynnwch olwg ar enillwyr BBN ar gyfer 2018/19

BBN 2019/20 – gellir parhau i ymgeisio i gymryd rhan yng ngwobrau eleni, cysylltwch â communitysafety@wrexham.gov.uk. Cynhelir archwiliadau o eiddo ym mis Chwefror 2020 a bydd y noson Wobrwyo ym Mawrth 2020.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb Cofiwch am y Prosiect Tirlun Darluniadwy yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf one tipped every minute Tipio un bob munud!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English