Wrth i fusnesau ailagor yng nghanol y dref ac wrth i nifer y bobl sy’n ymweld â’r ardal gynyddu, rydym yn atgoffa gyrwyr fod gorfodaeth parcio yn mynd rhagddo.
Gallwch barcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref, ond ceisiwch sicrhau eich bod yn parcio yn y meysydd parcio ac yn cadw at yr amseroedd aros er mwyn sicrhau bod llefydd ar gael mewn meysydd parcio arhosiad byr wrth i ymwelwyr ddod i’r dref i gefnogi economi canol y dref. Sicrhewch hefyd eich bod yn cadw at y cyfnod hiraf y gallwch aros yn y baeau aros cyfyngedig am ddim o amgylch canol y dref.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Bydd Swyddogion Gorfodi Parcio allan ar y strydoedd yn monitro hyn ac yn cyflwyno dirwyon i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau amser yn y meysydd parcio arhosiad byr a’r baeau parcio cyfyngiad amser.
Byddant hefyd yn parhau i gyflwyno dirwyon i unrhyw un nad ydynt wedi parcio mewn lle parcio dilys, megis ar linellau melyn dwbl, baeau anabl heb fathodyn glas ac unrhyw un sy’n parcio mewn ardaloedd penodol i gerddwyr ar yr amseroedd anghywir neu ar balmentydd. I osgoi dirwy, parciwch yn gyfrifol os gwelwch yn dda.
Y meysydd parcio sydd am ddim yw:
- Ffordd y Cilgant
- Neuadd y Dref
- Y Llyfrgell
- Stryt y Farchnad
- Tŷ Pawb
Gallwch hefyd fanteisio ar y baeau parcio Clicio a Chasglu 30 munud am ddim ar y Stryd Fawr os oes arnoch chi eisiau galw heibio yn y farchnad i gasglu nwyddau yr ydych wedi’u harchebu ymlaen llaw.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:
Click and Collect – 4 free parking bays now available on High Street
YMGEISIWCH RŴAN