Mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar y newyddion yn ddiweddar am y cynnydd o ran sbwriel oherwydd masgiau neu orchuddion wyneb.
Defnyddiwch finiau gwastraff cyffredinol neu ewch â nhw adref i gael gwared arnynt yn ddiogel. Dylent gael eu rhoi mewn bag plastig er mwyn osgoi lledaenu’r firws ymhellach a dylech olchi neu ddiheintio eich dwylo yn syth wedyn.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Maen nhw hefyd yn beryglus i fywyd gwyllt a allai fynd yn sownd yn y clymau a ddefnyddir i ddal y masg yn ei le.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’n syndod mawr bod pobl yn dewis taflu eu masgiau neu orchuddion wyneb i ffwrdd. Nid yn unig maen nhw’n gollwng sbwriel, ond mae’n rhoi pobl eraill mewn perygl o halogiad. Nid yw’n anodd cael gwared arnynt, felly byddwch yn gyfrifol a pheidiwch â’u taflu i unman heblaw mewn bag ac wedyn mewn bin.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION