Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer ymestyn y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru i Wrecsam gyfan o Ionawr 2019!
Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ehangiad y Cynnig Gofal Plant i Gymru ar draws Sir Wrecsam gyfan o fis Ionawr 2019.
Mae pob rhiant cymwys sy’n gweithio ac yn byw yn Wrecsam nawr yn gallu gwneud cais i gael mynediad at y Cynnig ar gyfer eu plant, o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn tri mlwydd oed nes mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn pedwar mlwydd oed.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Gallwch nawr wneud cais am y cynnig hwn o.
- hyd at 30 awr yr wythnos o Ofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen wedi’i gyfuno yn ystod y tymor a
- hyd at naw wythnos o ofal plant (30 awr) yn ystod gwyliau’r ysgol drwy’r Cynnig Gofal Plant:
Mae Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint yn cydweithio i ddarparu’r Cynnig hwn. Gall rhieni wirio a ydynt yn gymwys ac ymgeisio ar-lein drwy’r system ar-lein ar y cyd a gaiff ei gweinyddu gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam
Gallwch wneud cais ar-lein yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar 01978 292094 neu fis@wrexham.gov.uk
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU