Wrth i ddiwedd 2018 ddynesu, mae’n amser delfrydol i fwrw golwg yn ôl dros rai o’r straeon mwyaf poblogaidd yn ystod y flwyddyn.
Hwyrach eich bod wedi gweld rhai o’r rhain yn barod, ond mae’n werth cael golwg arall arnyn nhw 🙂
Dewch inni gael cip ar y deg uchaf. Mwynhewch…
1. Eira? Tywydd oer? Sut allaf i baratoi?
Efallai cyn hir y bydd hi’n fuddiol atgoffa’n hunain o’r erthygl hon a gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Wrth inni i gyd ddechrau rhoi ein hetiau, sgarffiau a menig amdanom yn amlach yn yr wythnosau diwethaf, mae’n werth cael cip…
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
2. Dyddiadau parcio am ddim dros y Nadolig
Dyma flog diweddar sy’n werth ei ddarllen os ydych chi’n bwriadu mynd i wneud eich siopa Nadolig ynghanol y dref…
3. Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch hen fwyd a gwastraff o’r ardd pan ydych chi’n ailgylchu?
Mae’n siŵr ein bod ni i gyd wedi pendroni ynglŷn â hyn ryw bryd neu’i gilydd… beth sy’n digwydd i’r pethau rwy’n eu hailgylchu wedi i’r Cyngor eu codi o garreg y drws? Fe gewch chi atebion i rai o’ch cwestiynau yn yr erthygl…
4. Pa wirionedd sydd yn yr hen chwedlau hyn am Wrecsam?
Twnelau dan ddaear? Elizabeth y ddoli? Dewch i wybod mwy drwy ddarllen hwn…
5. Mae Nadolig yn dod i Tŷ Pawb – gweler y rhaglen llawn yma!
Mae’n dechrau edrych yn fawr iawn fel Nadolig! Dyma’r un cyntaf i ni yn Tŷ Pawb ac mae gennym bethau arbennig iawn i helpu chi ddathlu a mwynhau trwy gydol y Nadolig! Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy…
6. Weloch chi’r fideo yma? Uchafbwyntiau HWB 2018
Mae’r ffilm fach fendigedig hon yn bwrw golwg yn ôl ar y digwyddiad HWB i ddathlu’r Gymraeg ar Sgwâr y Frenhines ym mis Mai. Gwyliwch y fideo…
7. Peidiwch anghofio eich brechiad ffliw – gallai arbed eich bywyd
Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi dod eto, pan mae angen i ni gymryd gofal o’n hiechyd gan fod pethau fel peswch ac annwyd yn fuan yn gallu ymledu a chyn i ni droi rownd, bydd ein brestiau i gyd yn dynn a byddwn yn pesychu! Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy…
8. Emma a Marie yn buddsoddi yng nghanol tref Wrecsam
Dyma stori fach hyfryd o ddechrau’r flwyddyn am Steilydd o’r enw Emma Capper a Therapydd Harddwch o’r enw Marie Holland, a sut aethant ati i sefydlu ELM Hair, Beauty and Makeup ar Stryt Argyle.
9. Cyhoeddi Bariau, Tafarndai, Clybiau a Bwytai gorau Wrecsam!
Hoffech chi wybod am y mannau gorau i gael bwyd, diod a hwyl yn Wrecsam? Dyma ddatgelu’r enillwyr yng Ngwobrau Best Bar None 2018…
10. Pryd mae’ch biniau chi’n mynd? Edrychwch ar y calendr newydd
Rydym yn gwybod pa mor hawdd yw anghofio a cholli casgliad biniau neu wastraff ailgylchu. Dylai’r calendr newydd wneud pethau ychydig yn haws ichi…
Rydyn ni’n gobeithio y cawsoch chi flas ar y straeon yma… fe ddaw digonedd o rai eraill yn 2019!
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU