Os nad ydych eto wedi ymateb i ohebiaeth y canfasiad blynyddol yna gallech golli’ch cyfle i gael dweud eich dweud ar bwy fydd yn eich cynrychioli chi yn Llywodraeth Cymru a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd pan gynhelir etholiadau mis Mai nesaf.
Bellach, mae mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio gan fod pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys 16 oed neu hŷn yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Sicrhewch eich bod hi’n ychwanegu unrhyw un dros 14 oed yn eich aelwyd i sicrhau nad ydynt yn methu’r cyfle i bleidleisio.
Bydd angen i chi ymateb os ydych wedi symud tŷ ers i chi gofrestru ddiwethaf – rhywbeth y mae pobl yn ei anghofio’n aml.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os ydi pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn eich cyfeiriad eisoes wedi cofrestru, does dim angen i chi wneud dim byd.
Os yw’r wybodaeth yn anghywir neu os oes pobl sy’n gymwys i bleidleisio sydd heb gael eu cynnwys, bydd angen i chi ymateb. Ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol.
Unwaith rydych wedi gwneud hyn, dylai pobl newydd gofrestru’n unigol ar www.gov.uk/register-to-vote https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG