Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 ffordd i gefnogi’r Apêl Pabi o bell eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > 5 ffordd i gefnogi’r Apêl Pabi o bell eleni
Yn cael sylw arbennigPobl a lle

5 ffordd i gefnogi’r Apêl Pabi o bell eleni

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 27, 2020 2:21 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
5 ffordd i gefnogi’r Apêl Pabi o bell eleni
RHANNU

Ar hyn o bryd mae Cymru dan gyfnod clo cenedlaethol, gyda chanllawiau’n nodi fod rhaid i ni aros gartref, heblaw ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn.

Yng ngoleuni hyn, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi atal casgliadau wyneb yn wyneb ar gyfer yr Apêl Pabi yng Nghymru.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Er gwaethaf absenoldeb casglwyr eleni, mae mwy o ffyrdd nac erioed i bobl gymryd rhan a chefnogi’r Apêl Pabi o bell.

Mae’r Lleng Brydeinig wedi cyflwyno sawl dewis i bobl sydd am gefnogi’r Apêl o’u cartrefi yn unol â chyfyngiadau Covid-19. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Prynu eich pabïau papur ac eitemau eraill o Siop Pabïau’r Lleng Brydeinig ar-lein.
  2. Lawrlwytho ac arddangos pabi yn eich ffenestr.
  3. Cymryd rhan yn yr her 11/11 i godi arian.
  4. Cwblhau taith redeg rithiol.
  5. Rhoi arian ar-lein.

Mae mwy o wybodaeth am yr uchod, a ffyrdd eraill i gefnogi’r apêl ar gael ar wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol. 

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Eleni, yn debyg iawn i eraill yn y gymdeithas, mae’r Apêl Pabi wedi gorfod addasu oherwydd bygythiad Covid-19 ac mae’n gofyn i’r cyhoedd ei chefnogi yn fwy nac erioed, oherwydd eleni, mae pob pabi’n cyfri.

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Mae Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig bob tro yn cael ei chefnogi a’i chynrychioli’n dda ar draws Wrecsam, a byddwn yn annog pawb i gefnogi’r apêl o’u cartrefi eleni…boed hynny’n golygu prynu pabi ar-lein neu gymryd rhan yn yr her 11/11 i godi arian.

“Mae pabïau hefyd yn cael eu gosod ar bolion lamp ger tref Wrecsam, ac yn y pentrefi cyfagos, a hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau a’r cynghorau cymuned sy’n gwneud hyn yn bosibl.”

Fel Cyngor, rydym yn annog pawb i gofio o’u cartrefi ar Sul y Cofio eleni 

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cofiwch aros gartref. Diolch Cofiwch aros gartref. Diolch
Erthygl nesaf Cofrestru i bleidleisio – mae’n gyflym ac yn hawdd Cofrestru i bleidleisio – mae’n gyflym ac yn hawdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English