Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)
Y cyngor

Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)

Diweddarwyd diwethaf: Awst 20, 2021 9:49 am
Rhannu
Darllen 6 funud
green bin
RHANNU

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2021/22, bydd angen i chi wneud hynny’n fuan er mwyn manteisio ar y gwasanaeth am 12 mis llawn.

Cynnwys
  • “Cael y gwerth gorau”
    • Talu ar-lein lle bo hynny’n bosibl
    • Sticeri newydd ar gyfer 2021/22
      • Wedi adnewyddu ond heb gael eich sticer newydd eto?
    • Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec
    • Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?
    • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
    • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Os ydych chi’n dymuno cael gwasanaeth am flwyddyn lawn, ewch draw i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilynwch y cyfarwyddiau hawdd i’w dilyn er mwyn talu. Dyma’r ffordd mwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Mae gwasanaeth 2021/22 yn dechrau dydd Llun 30 Awst 2021 tan ddydd Gwener 2 Medi, 2022. Nid yw’r ffi wedi newid, ac mae’n parhau i fod yn £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn.

Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)

Gall pobl barhau i gofrestru ar ôl 30 Awst, ond bydd eu gwasanaeth yn rhedeg o’r dyddiad maent yn cofrestru tan 2 Medi 2022. Er enghraifft, petai rhywun yn cofrestru yn gynnar ym mis Hydref, byddai’r gwasanaeth yn costio £25, ond dim ond tua 11 mis o gasgliadau y byddent yn ei gael.

Felly mae hi’n well i gofrestru rŵan i gael mwy o gasgliadau.

“Cael y gwerth gorau”

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “I gael y gwerth gorau, mae hi’n bwysig iawn bod pobl yn cofrestru’n gynnar. Rydym wedi cael ymateb da o ran pobl yn adnewyddu, ond rydym ni’n gwybod bod yna bobl sydd yn bwriadu cofrestru ond sydd heb wneud hynny eto am ba bynnag reswm. Rydym ni’n annog y bobl hynny i gofrestru trwy fynd i wefan wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau nad ydynt yn methu unrhyw gasgliadau. Rydym eisiau i bobl gael y gwerth gorau am eu harian.”

Talu ar-lein lle bo hynny’n bosibl

Y ffordd orau o dalu am y gwasanaeth yw trwy fynd i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Dyma’r ffordd mwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)

Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.

Sticeri newydd ar gyfer 2021/22

Bydd preswylwyr a fydd yn adnewyddu’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd. Bydd angen rhoi’r sticer yma mewn lle clir ar gaead y bin er mwyn sicrhau casgliadau o 30 Awst. Gadewch o leiaf 10 diwrnod gweithio o’r dyddiad yr ydych yn cofrestru, er mwyn derbyn pecyn y sticer newydd.

Wedi adnewyddu ond heb gael eich sticer newydd eto?

Dylai’r rhai sydd wedi cofrestru yn gynharach eleni dderbyn eu pecyn sticer ym mis Awst cyn i’r gwasanaeth ddechrau ar ddiwedd y mis.

Os na fydd eich sticer yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer eich casgliad cyntaf, rhowch eich bin allan ar eich diwrnod casglu yr un fath gan y gall ein criwiau ddefnyddio’r dechnoleg yn y wagen ailgylchu i wirio a ydych wedi talu, fel y gellir casglu eich gwastraff gardd.

Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec

Y flwyddyn ddiwethaf, anfonodd sawl cwsmer arian parod neu siec atom ni, er mwyn ceisio talu am y gwasanaeth. Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes modd i ni dderbyn y math yma o daliadau.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2021/22 yma! Cofrestrwch cyn 30 Awst er mwyn cael 12 mis llawn

Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?

Fel yr ydych yn cofio, roedd oedi yn nyddiad cychwyn y gwasanaeth y llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws ac felly estynnwyd y tanysgrifiadau tan 31 Awst, 2021.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma, ond ddim yn adnewyddu ar gyfer 2021/22 ni fyddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd o 31 Awst.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Gallwch wneud cais am gael gwared ar fin gwastraff gardd trwy ddefnyddio ein ffurflen ‘bin neu focsys newydd’.

Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro, oherwydd os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD YMA [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Award Mae Tŷ Pawb wedi ennill prif wobr bensaerniaeth
Erthygl nesaf Cefn Mawr Clinig Dros Dro yn Cefn Mawr (Awst 21)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English