Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol (ICAW) yw menter addysgol fwyaf y diwydiant compost, ac eleni, mae’n cael ei chynnal o ddydd Sul, 4 Mai, nes dydd Sadwrn, 10 Mai.
Drwy gydol yr wythnos, cynhelir digwyddiadau ar draws y byd, gyda gwahanol weithgareddau’n digwydd sy’n annog ac yn dathlu pob math o gompostio, o’r iard gefn i raddfa fawr.
Digwyddiadau dros dro lleol
Mae ein Tîm Mannau Agored a’r Tîm Ailgylchu wedi ymuno a byddant yn cynnig pabell dros dro yn:
- Parc Acton, 7 Mai, 11am – 1pm
- Dyfroedd Alun, 8 Mai, 1pm – 3pm
Dewch draw i gael:
- Cyngor ar gompostio ac ailgylchu
- Bagiau cadis am ddim
- Bagiau tote am ddim
- Pensiliau a beiros am ddim
Bydd nifer cyfyngedig o gadis ar gael i’w casglu ar gyfer preswylwyr sydd angen rhai newydd neu sydd eisiau dechrau compostio eu gwastraff bwyd.
Bydd y tîm Mannau Agored yno i drafod Cymru yn ei Blodau, a’u prosiectau o amgylch y Fwrdeistref gan ddefnyddio cyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!
Beth allwch chi ei gompostio?
Gellir defnyddio eich gwastraff gardd a’r rhan fwyaf o wastraff bwyd i greu eich compost eich hun gartref:
- Toriadau glaswellt
- Toriadau gwrych
- Pilion llysiau
- Bagiau te (mwy o wybodaeth – Cymru yn Ailgylchu: Bagiau Te)
- Mâl coffi
- Cardbord a phapur wedi’i rwygo
- Toriadau ffrwythau
Mwy o wybodaeth – Cymru yn ailgylchu: sut i ddechrau compostio gartref
Gwastraff bwyd a gardd
Oeddech chi’n gwybod y defnyddir eich gwastraff bwyd a gwastraff gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn?
Felly os nad ydych eisoes yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, pam na wnewch chi ddechrau ailgylchu eich sbarion a’i droi yn rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: