Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn sicrhau 2 gartref ynni-effeithlon arall gan Gower Homes fel Tai Cyngor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn sicrhau 2 gartref ynni-effeithlon arall gan Gower Homes fel Tai Cyngor
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn sicrhau 2 gartref ynni-effeithlon arall gan Gower Homes fel Tai Cyngor

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2025 11:37 am
Rhannu
Darllen 4 funud
ON the left of the image is the Managing Director of Gower Homes, to his right is Councillor Paul Blackwell, and then two Housing Officers. This Image is a collage image, so at the right of the image inclyde a photograph of the exterior of the home that the article is referring to
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi caffael dau eiddo o fewn datblygiad newydd cyffrous yn Acre-fair, gyda chefnogaeth cyllid gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol (RhGLlT/TACP) Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor wedi gweithio ar y cyd â Gower Homes, datblygwr lleol profiadol iawn sy’n gyfrifol am adeiladu dros 950 o gartrefi yn Wrecsam a’r cyffiniau.

Wedi’u lleoli ar Ffordd Treftadaeth yn Acre-fair, mae’r cartrefi tair ystafell wely hyn yn cynnwys ceginau gosod ac ystafelloedd ymolchi o ansawdd uchel, ynghyd â gerddi blaen wedi’u tirlunio sy’n cynnwys lawnt a phlanhigion.

Exterior of the back of the house, with turfing and fencing around it
Interior of the house, photograph of refurbished bathroom
Interior of the house, photograph of refurbished kitchen

Mae Gower Homes wedi cydnabod agosrwydd y cartrefi i briffordd ac wedi rhoi mesurau gwrthsain effeithiol ar waith i leihau lefelau sŵn. Mae’r rhain yn cynnwys ffenestri gwydr dwbl gyda system awyru wedi’i inswleiddio i flaen yr eiddo sy’n sicrhau amgylchedd byw tawelach.  Mae’r nodweddion hyn yn hanfodol ar gyfer gwella cysur preswylwyr. 

Mae’r Safle Tir Llwyd hwn wedi bod yn dadfeilio ers dros 10 mlynedd, gan gyflwyno cyfle gwerthfawr i ddatblygu tai gan adfywio’r ardal tra’n cwrdd â’r galw cynyddol am gartrefi.

Mae’r Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn pentrefi llai a lleoliadau gwledig yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y ddinas yn unig. 

Mae’r eiddo hyn yn cefnogi strategaeth ‘bot pupur’, sy’n hwyluso integreiddio cymunedol ac yn meithrin cymuned fwy amrywiol.

Gan fod y cartrefi hyn wedi cael eu prynu “oddi ar y silff” maent yn barod i’w dyrannu ar unwaith trwy broses ddyrannu safonol a system fandio’r Cyngor. 

Mae’r eiddo hefyd yn cynnwys technoleg eithriadol i arbed carbon, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer o’r radd flaenaf. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymroddiad y Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau eu hôl troed carbon, tra’n darparu arbedion cost posibl i ddeiliaid contractau.

Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn creu cartrefi sy’n addas i’r dyfodol gan eu bod yn cynnig dewis arall ynni-effeithlon i wresogi ac oeri’r eiddo, trwy drosglwyddo gwres rhwng yr aer tu allan a’r aer tu mewn. Gall hyn ostwng costau rhedeg o’i gymharu â systemau confensiynol. 

Mae Gower Homes yn ymfalchïo yn ei gartrefi allyriadau carbon isel.  Mae’r cwmni’n nodi bod y lefelau uchel o inswleiddio ynghyd â phympiau gwres ffynhonnell aer sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn lleihau allyriadau carbon 89%, sy’n drawiadol o’i gymharu â’r cartref cyffredin yn y DU.

Dwedodd Michael Forgrave, Rheolwr Gyfarwyddwr Gower Homes “Rydym yn falch iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dewis prynu dau arall o’n tai. Rydym wedi mwynhau perthynas hirsefydlog iawn gyda’r cyngor dros 40 mlynedd” 

Dyma’r ail bryniant o’i fath gan Gyngor Wrecsam ac mae’n gyfle cyffrous i ehangu Rhaglen Adeiladu a Phrynu’r Cyngor.  Mae’r fenter hon hefyd yn cynnwys prynu hen eiddo cyngor, archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer tai Cyngor, a gweithio gyda datblygwyr yn Wrecsam i ddiwallu anghenion tai Cyngor.

Dwedodd y Cynghorydd Paul Blackwell dros ogledd Acre-fair, “Rwy’n croesawu bod y Cyngor wedi prynu dau dŷ ar gyfer rhent fforddiadwy ar yr ystâd dai newydd hon yn Acre-fair gan Gower Homes. Tai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol yw’r hyn sydd ei angen arnom, ac mae’r pryniant hwn yn mynd ychydig o’r ffordd i ddiwallu’r angen hwnnw”

Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Mae hwn yn ddatblygiad tai cyffrous, sy’n dangos ymrwymiad cryf i effeithlonrwydd ynni.  Mae’n wych cael perthynas waith gyda Gower Homes, ac rydym yn falch o gael y ddau eiddo hyn ar gael ar gyfer deiliaid contract newydd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol SPF grant Grant CFfG yn mynd â busnes artist i’r lefel nesaf
Erthygl nesaf Compost Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 4 Mai!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English