Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen FOCUS Wales: gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad yn dychwelyd i Wrecsam 8-10 Mai!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > FOCUS Wales: gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad yn dychwelyd i Wrecsam 8-10 Mai!
Pobl a lleDigwyddiadau

FOCUS Wales: gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad yn dychwelyd i Wrecsam 8-10 Mai!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2025 6:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Pobl yn codi eu dwylo mewn cynulleidfa gig cerddoriaeth
RHANNU

Yn dathlu ei 15fed flwyddyn, mae gŵyl FOCUS Wales yn ôl eto wythnos nesaf– yn cael ei gynnal o ddydd Iau, 8 Mai i ddydd Sadwrn, 10 Mai, 2025.

Cynnwys
  • Beth i’w ddisgwyl gan FOCUS Wales
  • Mynnwch docynnau!
  • Mwy o wybodaeth

Beth i’w ddisgwyl gan FOCUS Wales

Os nad ydych chi wedi bod erioed o’r blaen, dyma grynodeb o’r ffordd mae’n gweithio.

Mae’n gasgliad enfawr o berfformwyr – gan ddod â mwy na 250 o artistiaid cerddoriaeth o Gymru a ledled y byd i berfformio yn Wrecsam.

Bydd artistiaid yn perfformio mewn llawer o leoliadau o amgylch canol y ddinas, yn bennaf mewn tafarndai, clybiau a mannau bwyd – yn ogystal â phabell fawr ar y Llwyn Isaf (y Cae Llyfrgell), HWB ar Sgwâr y Frenhines a Tŷ Pawb.

Does dim genre penodol o gerddoriaeth felly mae llawer i ddewis ohonynt, mewn gwirionedd dylech ddisgwyl yr annisgwyl!

Oherwydd bod llawer o gigs yn digwydd ar yr un pryd, unwaith y byddwch wedi cael tocyn dilys gallwch naill ai ddewis cynllunio eich amserlen yn ofalus; neu alw heibio i leoliadau gwahanol a gweld beth sydd at eich dant.

Yn ogystal ag amserlen yn llawn cerddoriaeth wreiddiol gan gannoedd o artistiaid, mae’r ŵyl hefyd yn cynnig:

  • sgyrsiau gan bobl yn y diwydiant cerddoriaeth a digwyddiadau rhwydweithio; fel rhan o gynhadledd yr ŵyl dros 3 diwrnod
  • Dangosiadau ffilm (gyda chystadlaethau categori, yn ogystal â gwobrau y tu allan i’r gystadleuaeth ar gyfer ‘Goreuon Wrecsam’ a ‘Straeon Celtaidd’) a sgyrsiau gwneud ffilmiau yn yr ŵyl ffilm sy’n cael ei chynnal o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn

Mynnwch docynnau!

Felly, os ydych chi’n gefnogwr cerddoriaeth, yn frwdfrydig am ffilmiau, neu hyd yn oed yn artist eich hun sydd eisiau creu cysylltiadau yn y diwydiant – dewch draw ac ymunwch yn yr hwyl!

Mae sawl math gwahanol o docynnau ar gael, gan gynnwys tocynnau gŵyl sy’n rhoi mynediad i bob sioe (os oes lle ar gael), tocynnau dydd, neu docynnau i sioeau unigol ar gyfer llond llaw o artistiaid.

Er mwyn lleihau ciwio mewn lleoliadau, bydd un swyddfa docynnau ganolog wedi’i lleoli yn Tŷ Pawb. Felly, os ydych chi’n prynu unrhyw fath o docyn, bydd angen i chi fewngofnodi a chasglu eich band garddwrn o Tŷ Pawb yn gyntaf cyn mynd i unrhyw sioeau.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld yr ŵyl yn dychwelyd i Wrecsam unwaith eto, gan gynnig cyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd gefnogi busnesau lleol tra’n mwynhau’r amrywiaeth enfawr o adloniant creadigol sydd ar gael.”

Mwy o wybodaeth

I ddarganfod mwy (gan gynnwys y ddolen i’r ap er mwyn gallu creu eich amserlen eich hun yn ogystal â chanllawiau trafnidiaeth os ydych chi’n ymweld o rywle arall), edrychwch ar dudalen wybodaeth FOCUS Wales.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales!

Rhannu
Erthygl flaenorol Compost Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 4 Mai!
Erthygl nesaf S A allai ShopMobility wneud dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn haws i chi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English