Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu agor y Ganolfan Frechu Leol gyntaf yng Ngogledd Cymru.
Mae’r cyngor wedi bod yn pwyso am ganolfan o’r fath yn y fwrdeistref sirol fel rhan o gyflwyno’r brechlyn i gymunedau lleol, ac yn gynharach yr wythnos hon, agorodd y cyfleuster yng Nghanolfan Catrin Finch.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rheoli’r ganolfan, a bydd yn chwarae rôl allweddol yn y rhaglen frechu leol – ochr yn ochr â meddygfeydd Meddygon Teulu a’r Ganolfan Brechu Torfol yng Nglannau Dyfrdwy.
Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym wedi pwyso am Ganolfan Frechu Leol yn Wrecsam ers y dechrau, ac rydym wrth ein boddau o’i gweld wedi agor ac yn weithredol.
“Mae’n newyddion da ac mae’n hwb pwysig i Wrecsam yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
“Bydd staff iechyd yn y safle yn gwneud gwaith gwych, a hoffwn ddiolch i’r bwrdd iechyd a phawb sy’n rhan o’r gwaith.
“Hoffwn atgoffa pobl i beidio â mynd i’r safle heb apwyntiad. Pan ddaw eich tro chi i gael cynnig brechiad, bydd rhywun yn cysylltu â chi.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi bod yn trafod gyda phartneriaid am gyfnod sylweddol ac mae pawb sy’n rhan o’r gwaith wedi gweithio’n galed.
“Mae’r ganolfan ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, ac mae trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal i edrych ar gynyddu’r oriau agor yn y dyfodol.”
Peidiwch â mynd i’r safle heb apwyntiad
Dyma rai ffeithiau pwysig, a gair i gall:
- Bydd y ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau i ddechrau.
- Mae modd cael brechiad dim ond drwy wneud apwyntiad.
- Nid yw’r Ganolfan Frechu Leol yn cynnig gwasanaethau galw heibio.
- Peidiwch â dod i’r safle heb apwyntiad – ni chewch gynnig brechiad.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno’r rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar gael ar wefan Betsi Cadwaladr.