Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – daeth cyfyngiadau lefel rhybudd 4 i rym neithiwr (19 Rhagfyr)…dyma beth mae’n ei olygu yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – daeth cyfyngiadau lefel rhybudd 4 i rym neithiwr (19 Rhagfyr)…dyma beth mae’n ei olygu yn Wrecsam
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – daeth cyfyngiadau lefel rhybudd 4 i rym neithiwr (19 Rhagfyr)…dyma beth mae’n ei olygu yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 29, 2020 11:18 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid-19
RHANNU

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai set newydd o reolau yn dod i rym ar draws Cymru o 28 Rhagfyr.

Cynnwys
  • Beth sydd angen i chi ei wneud?
  • Dim ond cymysgu â phobl yn eich aelwyd eich hun. Peidio â chwrdd ag aelwydydd eraill (dan do nac yn yr awyr agored). Dim ond teithio at ddibenion hanfodol, fel gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
  • Beth fydd yn cau yn Wrecsam?
  • Beth fydd yn aros ar agor?
  • Swigod Nadolig wedi’u cyfyngu i Ddydd Nadolig yn unig
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Fodd bynnag, mae amrywiolyn newydd o’r coronafeirws, sy’n llawer mwy heintus ac sy’n lledaenu’n gyflymach na’r un gwreiddiol, yn cyfrannu at gynnydd presennol o ran nifer yr achosion ar draws y DU, gan gynnwys Gogledd Cymru.

O ganlyniad, daeth y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 a oedd i fod i gael eu gweithredu o 28 Rhagfyr, i rym am hanner nos neithiwr (19 Rhagfyr).

Er bod hyn yn ddifrifol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud ei bod yn arferol i feirysau newid fel hyn, ac er bod yr amrywiolyn yn haws i’w drosglwyddo, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn fwy difrifol.

Ar yr un pryd, bydd brechiad yn parhau i gynnig amddiffyniad, felly mae’n bwysig peidio â chynhyrfu ac edrych i’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Beth sydd angen i chi ei wneud?

O hanner nos neithiwr (19 Rhagfyr), dylech aros gartref a chyfyngu ar nifer y bobl rydych chi’n dod i gyswllt â nhw.

Mae hyn yn golygu y dylech:

  • Dim ond cymysgu â phobl yn eich aelwyd eich hun.
  • Peidio â chwrdd ag aelwydydd eraill (dan do nac yn yr awyr agored).
  • Dim ond teithio at ddibenion hanfodol, fel gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
  • Cymerwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

    Beth fydd yn cau yn Wrecsam?

    Mae’r cyfleusterau canlynol ar gau, gan ddechrau o hanner nos neithiwr (19 Rhagfyr):

    • Eiddo manwerthu/siopau nad ydynt yn hanfodol.
    • Y Farchnad Gyffredinol.
    • Marchnad ddydd Llun ar Sgwâr y Frenhines.
    • Maes parcio ac adeilad Tŷ Pawb.
    • Lleoliadau lletygarwch ac adloniant.
    • Atyniadau i ymwelwyr, gan gynnwys Amgueddfa Wrecsam.
    • Llyfrgelloedd, ar wahân i wasanaethau archebu a chasglu.
    • Canolfannau hamdden a ffitrwydd, gan gynnwys Byd Dŵr Wrecsam a lleoliadau Hamdden Freedom eraill, cyrtiau chwaraeon a chyrsiau golff.
    • Lleoliadau ar gyfer brecwast priodas a the claddu.

    Bydd gwasanaethau’r cyngor yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol (megis cynnal a chadw priffyrdd) ac felly bydd rhai gwasanaethau eraill wedi’u gohirio.

    Beth fydd yn aros ar agor?

    Bydd y pethau canlynol yn aros ar agor:

    • Parciau, parciau gwledig a meysydd chwarae a gaiff eu rheoli gan y Cyngor.
    • Darpariaeth gofal plant.
    • Mannau addoli.
    • Amlosgfa Wrecsam (gyda chyfyngiadau ar gyfer mynychu gwasanaethau) a mynwentydd.
    • Y swyddfa gofrestru yn Neuadd y Dref ar gyfer priodasau a seremonïau partneriaeth sifil, yn ogystal â chofrestriadau genedigaethau.
    • Marchnad y Cigydd ar gyfer masnachwyr bwyd.
    • Caffis yng Nghanolfan Adnoddau Plas Pentwyn a Chanolfan Adnoddau Llai ar gyfer gwasanaethau bwyd i fynd yn unig.
    • Gwaith awyr agored ar dai cyngor, a gwaith atgyweirio dan do ar gyfer tenantiaid os yw’n achos brys.
    • Mae’r tair canolfan ailgylchu yn Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc yn bwriadu aros ar agor, ond rydym yn aros am ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru, a ddisgwylir cyn hir. Mae angen apwyntiad er mwyn defnyddio safle Brymbo.

    Swigod Nadolig wedi’u cyfyngu i Ddydd Nadolig yn unig

    Bydd rheolau i ganiatáu i ddwy aelwyd uno i ffurfio swigen Nadolig yn berthnasol ar Ddydd Nadolig yn unig bellach (yn hytrach na’r cyfnod pum diwrnod a gynlluniwyd i ddechrau).

    Ac mae’n dal i fod yn bwysig cofio bod y perygl o ddal neu ledaenu’r feirws yn cynyddu pryd bynnag fyddwn ni’n dod at ein gilydd, yn enwedig gyda’r amrywiolyn newydd, felly meddyliwch cyn penderfynu ffurfio swigen.

    Mae Nadolig llai yn Nadolig diogelach.

    Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

    Ffeithlun Llywodraeth Cymru ar gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

    Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

    Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

    ???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

    Rhannu
    Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
    Erthygl nesaf Helpwch ni i atal pobl rhag tipio’n anghyfreithlon Helpwch ni i atal pobl rhag tipio’n anghyfreithlon

    Cysylltu

    812DilynwyrHoffi
    1.1KDilynwyrDilyn
    765DilynwyrDilyn
    39DilynwyrDilyn
    - Cofrestru -
    Ad image

    Y newyddion diweddaraf

    Wo
    Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
    Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
    Hydref 23, 2026
    Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
    Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
    Busnes ac addysg
    Hydref 23, 2026
    National Adoption Week 2026
    Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
    Y cyngor Pobl a lle
    Hydref 23, 2026
    Could you be a councillor?
    Allech chi fod yn gynghorydd?
    Pobl a lle Digwyddiadau
    Hydref 22, 2026

    Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

    Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
    Y cyngor

    Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

    Hydref 9, 2026
    Cloudy sky
    Y cyngorArall

    Rhybudd tywydd – Storm Austen

    Hydref 22, 2026
    Sam Gardner
    DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

    Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

    Hydref 22, 2026
    Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
    Pobl a lleArall

    Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

    Hydref 21, 2026
    //

    Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

    Prif storiau

    Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

    Tanysgrifwch

    Dolenni cyflym

    • Addasu diddordebau
    • Rhestr ddarllen
    • Fy Niweddariadau
    • Cysylltwch â’r cyngor
    • Polisi preifatrwydd
    Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
    Dilynwch NI
    © 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
    Wrexham Council News
    Welcome back!

    Sign in to your account

    Username or Email Address
    Password

    Lost your password?

    • Cymraeg
    • English