- Cael y ddau frechlyn, a’r brechlyn atgyfnerthu pan gewch chi wahoddiad (mae bellach yn bosibl archebu eich brechlyn atgyfnerthu ar-lein).
- Cyfyngu ar eich cysylltiadau.
- Mae’n fwy diogel y tu allan na dan do.
- Gwneud prawf llif unffordd cyn gweld eraill.
- Os oes gyda chi symptomau, dylech hunanynysu a chymryd prawf PCR.
- Gwisgwch orchudd wyneb.
Newid mewn Rheoliadau
O 20 Rhagfyr, mae’r neges ‘gweithio o gartref’ wedi cael ei hatgyfnerthu
Fel y gwyddoch mae’n siŵr, mae’r rheoliadau cyfreithiol mewn perthynas â Covid-19 yng Nghymru wedi cael eu diwygio.
Mae bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith bod:
“Pobl yn gweithio o gartref lle bynnag y bo hynny’n rhesymol ymarferol o 20 Rhagfyr.”
Felly mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i chi weithio o gartref lle bo modd, a dylai eich cyflogwr eich annog i wneud hyn.
Ein cyngor o hyd yw: gweithiwch gartref os gallwch.
Mae hyn yn helpu i leihau'r risg o ddal a lledaenu coronafeirws.
Wrth i ni ddelio â'r amrywiolyn Omicron newydd, rhaid i ni I gyd ddal ati i wneud popeth y gallwn i dorri’r trosglwyddiad a #DiogeluCymru.#KeepWalesSafe pic.twitter.com/RzD3CHS4Zw
— Llywodraeth Cymru #DiogeluCymru (@LlywodraethCym) December 19, 2021
O 27 Rhagfyr
O 27 Rhagfyr, bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru.
Bydd rheol cadw pellter cymdeithasol dau fetr hefyd yn dod i rym mewn swyddfeydd, a bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cadw’n ddiogel dros y Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu cyngor cryf ar sut i aros yn ddiogel dros gyfnod y Nadolig, ac wedi dweud ‘Nadolig llai yw’r Nadolig mwyaf diogel.’
Mae’r cyngor yn cynnwys:
- Cael eich brechu ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
- Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu’n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw’n bositif – arhoswch gartref.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
- Cymdeithasu bob hyn a hyn, gadewch o leiaf ddiwrnod rhwng digwyddiadau.
- A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi’ch dwylo.
Archebwch eich brechlyn atgyfnerthu Covid-19 ar-lein…
ARCHEBWCH EICH BRECHLYN ATGYFNERTHU