Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad i’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (24.3.20).
Negeseuon allweddol heddiw:
• O ddydd Llun, 30 Mawrth, caiff cludiant o’r cartref i’r ysgol ei atal nes clywir yn wahanol ar draws y fwrdeistref sirol.
• Mae effaith coronafeirws wedi cael effaith ar ein gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu. Mae cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill wedi’i ganslo.
• Mae ein llwybrau cyhoeddus yn dal i fod ar agor ond rhaid i bobl sy’n eu defnyddio gadw at gyngor am gadw pellter cymdeithasol.
• Bydd gwasanaethau nwy mewn tai cyngor yn parhau ar draws y fwrdeistref sirol.
• Rydym yn clywed am bobl sy’n dal i ddefnyddio ein hardaloedd chwarae. Peidiwch â’u defnyddio os gwelwch yn dda.
• Mae nifer uchel iawn o alwadau i rifau ffôn y cyngor – cysylltwch â ni dros y ffôn pan fo hynny’n hanfodol yn unig. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu ymateb cyflym i bobl sydd wirioneddol ei angen.
• Er mwyn cefnogi gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd (e.e. iechyd, gofal cymdeithasol, archfarchnadoedd, banciau), rydym yn atal taliadau ym mhob un o’n meysydd parcio cyhoeddus o heddiw ymlaen. Gobeithiwn fod hyn yn cefnogi pobl sydd angen gwneud siopa bwyd hanfodol.
• Mae atal taliadau yn ein meysydd parcio er mwyn cefnogi’r rhai sy’n darparu gwasanaethau hanfodol a gwneud siopa bwyd hanfodol yn unig. Ni ddylai pobl fod yn teithio na gadael eu cartrefi oni bai bod hynny yn unol â chyfarwyddiadau’r Llywodraeth.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Cofiwch. Dim ond ar gyfer y dibenion canlynol, sy’n gyfyngedig iawn, y cewch adael eich cartref nawr:
• Siopa am hanfodion sylfaenol, mor anaml ag sy’n bosibl.
• Un math o ymarfer corff bob dydd – er enghraifft, mynd i redeg, mynd am dro neu fynd ar eich beic – ar ben eich hun neu gydag aelodau eich aelwyd.
• Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu unigolyn diamddiffyn.
• Teithio i’r gwaith ac yn ôl, ond dim ond pan fo hyn yn hollol angenrheidiol ac na ellir gweithio gartref.
Daliwch i gadw pellter oddi wrth eich gilydd. Trwy gadw draw oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau a helpu i gadw Wrecsam mor ddiogel â phosibl.
Rydym wedi casglu’r wybodaeth a ganlyn i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor.
Ysgolion
Cludiant i’r Ysgol
Fel rydych chi’n gwybod, mae ysgolion yn Wrecsam wedi bod yn darparu lleoedd i blant ‘gweithwyr allweddol’, yn ogystal â phlant sydd wedi’u cofrestru fel plant diamddiffyn.
O ddydd Llun, 30 Mawrth, caiff cludiant o’r cartref i’r ysgol ei atal nes clywir yn wahanol ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae hyn er mwyn lleihau teithio nad yw’n angenrheidiol ac er mwyn sicrhau bod plant yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.
Mae’r nifer sy’n manteisio ar gludiant o’r cartref i’r ysgol wedi bod yn hynod o isel yr wythnos hon, ac mae hyn wedi cyfrannu at y penderfyniad hefyd.
Bydd cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer plant ag AAA (Anghenion Addysg Arbennig) yn parhau ar gyfer plant sy’n teithio i’w cyfleusterau arferol.
Prydau Ysgol am Ddim
Rydym ni’n gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant nad ydynt yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Mae hyn yn her fawr i gynghorau ar draws Cymru ac rydym yn edrych ar ddefnyddio rhai o’n heiddo ein hunain i ddosbarthu bagiau ‘bwyd i fynd’ sy’n cynnwys pecyn cinio.
Gallwn ddarparu niferoedd digonol, mae angen i ni ganfod y dull dosbarthu mwyaf effeithiol. Nid ydym am orlenwi ysgolion na chreu rheswm i bobl gasglu ynghyd heb fod angen, felly bydd angen i ni gynllunio’n ofalus.
Rydym yn gobeithio y bydd gennym gynllun erbyn dydd Gwener a byddwn yn rhoi gwybod i ysgolion amdano a rhoi gwybodaeth ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag sy’n bosibl.
Rydym hefyd yn aros am gyngor am y cynllun talebau cenedlaethol, sy’n cael ei archwilio gan Lywodraeth Cymru.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gwasanaethau cynllunio
Mae effaith coronafeirws wedi rhoi straen sylweddol ar ein gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu.
Mae cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill wedi’i ganslo.
Mae’n bosibl y bydd yn cymryd amser hirach i ni ymateb i ohebiaeth, a bydd ceisiadau ac ymholiadau newydd a gyflwynir yn profi oedi wrth gofrestru.
Bydd rhywfaint o oedi hefyd wrth gyhoeddi hysbysiadau penderfynu. Mae hyn yn debygol o fod yn oedi o hyd at dair wythnos neu fwy.
Hefyd, mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi dweud bod pob gwrandawiad ac ymholiad – gan gynnwys ymweliadau safle – wedi’u canslo nes clywir yn wahanol.
Os ydych chi’n gwsmer presennol, yn gynghorydd lleol neu gynghorydd sir, a bod gennych ymholiad neu bod angen diweddariad arnoch am eich ceisiadau cynllunio, ceisiwch eu cyflwyno dros e-bost i’r swyddog perthnasol yn uniongyrchol.
Caiff unrhyw geisiadau, ymholiadau neu ohebiaeth a ddaw i law yn ystod y cyfnod hwn eu hystyried maes o law.
Llwybrau troed cyhoeddus
Mae ein rhwydwaith Llwybrau Cyhoeddus yn dal i fod ar agor, ond gallai hyn newid os nodir ardaloedd lle mae grwpiau o bobl yn ymgasglu a’u bod yn anwybyddu mesurau a nodwyd gan y Llywodraeth.
Rydym yn gofyn i bawb lynu wrth arferion cadw pellter cymdeithasol a defnyddio eu llwybrau lleol, yn hytrach na theithio i gefn gwlad heb fod angen.
Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat, ffermydd gweithio ac mewn rhai achosion maen nhw’n agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a daliwch i ddilyn y cyfyngiadau a’r mesurau sydd ar waith i’ch diogelu chi ac eraill.
Caiff pob hysbysiad cau llwybr eu cyhoeddi ar-lein a chaiff hysbysiadau eu gosod ar safleoedd dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020.
Tenantiaid tai
Gwasanaeth nwy mewn tai cyngor
Bydd gwasanaethau nwy yn parhau ar draws y fwrdeistref sirol ar gyfer ein tenantiaid tai.
Mae hon yn rhwymedigaeth gyfreithiol ac mae’n helpu i sicrhau diogelwch pobl.
Bydd Tenantiaid yn cael galwad ffôn cyn unrhyw ymweliadau i drafod, a chymerir rhagofalon yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
Ardaloedd chwarae
Mae pob ardal chwarae a gaiff eu rheoli gan y cyngor wedi’u cau ers dechrau’r wythnos hon i gefnogi cadw pellter cymdeithasol.
Er hyn, rydym yn dal i glywed am bobl yn eu defnyddio. Peidiwch â’u defnyddio os gwelwch yn dda. Mae ein hardaloedd chwarae ar gau ac mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn glir mai dim ond ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn y dylai pobl fod yn gadael eu cartrefi.
Mae’n anodd cau rhai ardaloedd chwarae, ond lle bo’n bosibl, byddwn yn dilyn mesurau i geisio eu diogelu.
Meysydd parcio
Er mwyn cefnogi gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd (e.e. iechyd, gofal cymdeithasol, archfarchnadoedd, banciau), rydym yn atal taliadau ym mhob un o’n meysydd parcio cyhoeddus o heddiw ymlaen.
Gobeithiwn fod hyn yn cefnogi pobl sydd angen gwneud siopa hanfodol.
Mae atal taliadau yn ein meysydd parcio er mwyn cefnogi’r rhai sy’n darparu gwasanaethau hanfodol a gwneud siopa bwyd hanfodol yn unig.
Ni ddylai pobl fod yn teithio na gadael eu cartrefi oni bai bod hynny yn unol â chyfarwyddiadau’r Llywodraeth.
Nodyn atgoffa – gwasanaethau hanfodol yn unig
Dim ond gwasanaethau hanfodol y cyngor ydym yn eu darparu ar hyn o bryd. Pethau rydym wedi eu nodi fel hanfodol iawn i’n cymunedau ac ar gyfer rhedeg y cyngor yw’r rhain.
Maen nhw’n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, cyngor am fudd-daliadau tai, llety gwarchod, ysgolion (ar agor i blant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn yn unig ar hyn o bryd), gwagio biniau, digartrefedd a phethau eraill mae pobl yn dibynnu arnynt.
Fe fydd y feirws yn parhau i effeithio ar ein gweithlu, ond rydym yn cynllunio i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Mae nifer uchel iawn o alwadau i rifau ffôn y cyngor – cysylltwch â ni dros y ffôn pan fo hynny’n hanfodol yn unig. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu ymateb cyflym i bobl sydd wirioneddol ei angen.
Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach wrth i bobl â chyflyrau iechyd presennol gael llythyrau dros y dyddiau nesaf, a bydd angen iddynt gysylltu â ni i gael cefnogaeth.
Nodyn atgoffa – pobl â chyflyrau iechyd presennol
Fel soniwyd ddoe, mae’r Llywodraeth yn anfon llythyrau i bobl ar draws y DU sydd â chyflyrau iechyd presennol sy’n golygu eu bod yn fwy agored i Covid-19.
Bydd y llythyrau yn cynghori pobl i aros adref ac osgoi unrhyw gyswllt wyneb i wyneb am o leiaf 12 wythnos.
Os byddwch yn cael un o’r llythyrau hyn ac nad oes gennych unrhyw ffrindiau, perthnasau neu gymdogion a all alw heibio gyda bwyd a meddyginiaeth i chi, neu os na allwch archebu eich bwyd ar-lein, bydd y llythyr yn dweud wrthych am gysylltu â ni gan ddefnyddio rhif ffôn a ddarperir.
Os oes angen i chi ein ffonio ni, gallwch fod yn ffyddiog ein bod yn gweithio’n galed gyda phartneriaid i roi mesurau ar waith a fydd yn ein galluogi i’ch helpu chi.
Nodyn atgoffa – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
● Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog)
● Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i gofrestru.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19