Mae’r nodyn hwn yn rhoi diweddariad ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (1.5.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Rydym wedi derbyn tua 2,600 o gofrestriadau ar gyfer y cynllun prydau ysgol am ddim newydd. Fodd bynnag, os nad ydych chi wedi cofrestru eto, nid yw’n rhy hwyr.
• Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau ddydd Gwener gŵyl y banc.
• O’r wythnos hon, byddwn yn ffonio pobl ar y rhestr ‘warchod’ i wirio eu bod yn iawn.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Prydau Ysgol am Ddim – dros 2,600 o gofrestriadau ar gyfer y cynllun newydd
Heddiw, rydym wedi cyflwyno system daliadau uniongyrchol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Mae’r cynllun newydd yn golygu fod taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon rhieni neu ofalwyr, a gallant ddefnyddio’r arian hwn i dalu am fwyd i’w plant.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn annog pobl i gofrestru ar gyfer y cynllun newydd hwn.
Rydym wedi derbyn ymateb gwych hyd yma, gyda dros 2,600 o gofrestriadau – sydd tua’r un faint o brydau ysgol am ddim ag y byddem fel arfer yn eu darparu bob diwrnod.
Felly, rydym yn credu fod nifer fawr o deuluoedd sy’n gymwys yn manteisio ar y cynnig hwn… sy’n newyddion da i blant ar draws y fwrdeistref sirol.
Sut mae’n gweithio
Mae rhieni yn derbyn taliad ar ddechrau bob mis sy’n cyfateb ag £19.50 yr wythnos ar gyfer bob plentyn cymwys yn eu teulu – sy’n golygu ein bod yn talu £78 i wneud bywyd mor hawdd â phosibl ar eu cyfer.
Rydym hefyd yn talu’r arian yn ystod gwyliau ysgol – felly bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn arian dros wyliau banc, hanner tymor ysgol ac ati.
Mae tua 1,100 o daliadau eisoes wedi’u talu i gyfrifon banc pobl. Caiff 900 o daliadau pellach eu gwneud ddydd Iau, 7 Mai a rhagor o daliadau cyn 12 Mai.
Felly, os ydych chi wedi cofrestru ac os nad ydych chi wedi derbyn eich arian eto, fe ddylech ei dderbyn o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf.
Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru
Os yw eich plant yn derbyn prydau ysgol am ddim fel arfer, ac os nad ydych wedi cofrestru eto, nid yw’n rhy hwyr. Llenwch y ffurflen ar ein gwefan.
COFRESTRU NAWR
Os bydd gennym unrhyw ymholiadau, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Fel arall, fe ddylai’r arian gyrraedd eich cyfrif banc o fewn 10 diwrnod i ddyddiad derbyn eich cais.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Dim newidiadau i gasgliadau biniau ddydd Gwener gŵyl y banc
Byddwn yn gwagio eich biniau ac yn casglu eich ailgylchu yn ôl yr arfer yn ystod gŵyl y banc (ddydd Gwener, 8 Mai).
Felly, os mai dydd Gwener yw eich diwrnod casgliadau arferol, rhowch eich biniau a’ch ailgylchu allan yn ôl yr arfer… ni fydd gŵyl y banc yn cael effaith o gwbl ar eich casgliadau.
Os ydych yn derbyn galwad ffôn gennym…
O’r wythnos hon, byddwn yn ffonio pobl ar y rhestr ‘warchod’ i wirio eu bod yn iawn.
Dyma’r bobl sydd wedi derbyn llythyr gan y Llywodraeth yn eu hannog i hunan-ynysu gan fod ganddynt gyflwr iechyd presennol.
Felly, os ydych chi ar y rhestr ac yn derbyn galwad ffôn gan y cyngor, peidiwch â phryderu … rydym yn ffonio i wirio eich bod yn iawn.
Nodyn atgoffa – ydych chi’n gymwys i gael cymorth i’ch busnes?
Rydym eisoes wedi talu mwy na £20 miliwn i 1,667 o fusnesau yn Wrecsam fel rhan o’r cymorth rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er ein bod yn parhau i dderbyn ceisiadau bob dydd, rydym yn annog unrhyw un nad ydynt eisoes wedi gwneud cais i wirio a yw eu busnes yn gymwys ac – os felly – i gyflwyno cais ar-lein.
Os ydych chi’n gwneud cais, gwiriwch y manylion rydych chi’n eu rhoi’n ofalus iawn – yn enwedig rhifau cyfrifon banc a chodau didoli – gan y gallai manylion anghywir arwain at oedi cyn cael taliadau.
Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl wneud yn ei gylch yn cael ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Sesiynau briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 1.5.20