Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Mawrth (28.4.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Yr wythnos nesaf, mae disgwyl i’r Llywodraeth amlinellu sut fydd y DU yn dechrau codi’r cyfyngiadau ar symud, a rhoi syniad o sut fydd pethau’n newid yn y dyfodol…. a beth allai hyn ei olygu i wasanaethau’r cyngor.
• Rydym yn gofyn i aelwydydd ar draws Wrecsam feddwl am eu cymdogion – yn enwedig yr henoed, neu’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Os ydych yn bryderus amdanyn nhw, ewch i weld a ydynt yn iawn.
• Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom oleuo rhai o adeiladau’r cyngor i ddiolch i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen, ac i’n holl gymunedau yn ystod yr argyfwng Covid-19.
• Byddwn yn cyflwyno system daliadau uniongyrchol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim ddydd Llun (4 Mai). Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, nid yw’n rhy hwyr.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Sut fyddwn yn codi’r cyfyngiadau ar symud?
Mae’r cyfyngiadau ar symud wedi cael effaith anferth ar ein bywydau.
Yn naturiol, mae pobl wedi dechrau meddwl am bryd fydd y cyfyngiadau hyn yn dechrau llacio, a sut fydd pethau’n newid dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Rydym hefyd wedi gweld cwestiynau ynghylch pryd fydd rhai o gyfleusterau a gwasanaethau’r cyngor yn ailagor neu’n ailddechrau.
Ar hyn o bryd, mae’r neges yn glir – dylid aros gartref, arbed bywydau a diogelu’r GIG.
Fodd bynnag, yr wythnos nesaf, mae disgwyl i’r Llywodraeth amlinellu sut fydd y DU yn codi’r cyfyngiadau ar symud yn y pen draw, a sut fydd y penderfyniadau mewn perthynas â hyn yn cael eu gwneud.
Bydd hyn yn rhoi gwell syniad i ni o sut fydd pethau’n newid yn y dyfodol… a beth allai hyn ei olygu i wasanaethau’r cyngor.
Fel bob cyngor arall, rydym eisoes wedi dechrau meddwl am sut i ddechrau cynnig gwasanaethau amrywiol ar yr amser iawn.
Ond mae’n bwysig nad ydym yn rhoi’r ceffyl o flaen y drol.
Drwy barhau i gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a dilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth, rydym yn cadw ein gilydd yn ddiogel … ac yn chwarae ein rhan ni yn y broses o gario’r genedl drwy’r pandemig hwn.
Cadwch yn saff.
Ydi’ch cymdogion yn iawn?
Un peth cadarnhaol sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil yr argyfwng Covid-19 ydi’r modd y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd.
Serch hynny, mae yna bobl sydd heb berthnasoedd na ffrindiau gerllaw, heb neb amlwg i ofyn a ydynt yn iawn.
Felly rydym yn gofyn i aelwydydd ar draws Wrecsam feddwl am eu cymdogion – yn enwedig yr henoed, neu’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Meddyliwch a ydych wedi eu gweld neu eu clywed yn ddiweddar, ac os ydych chi’n poeni, ewch i wirio a ydynt yn iawn.
Ewch i roi cnoc ar y drws, neu postiwch nodyn bach drwy’r blwch postio….ond cofiwch gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a chadwch o leiaf ddau fetr i ffwrdd.
Os nad ydych yn derbyn ymateb ac yn dechrau teimlo’n bryderus iawn, cysylltwch â ni ar 01978 292000 neu contact-us@wrexham.gov.uk, a byddwn yn gwneud ein gorau i gysylltu â’r unigolyn yr ydych yn pryderu amdanynt.
Diolch
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom oleuo rhai o adeiladau’r cyngor i ddiolch i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen, ac i’n holl gymunedau yn ystod yr argyfwng Covid-19.
Diolch i bawb sy'n gweithio ar y rheng flaen yn ystod argyfwng Covid-19. Rydych chi'n anhygoel. #Wrecsam pic.twitter.com/PUehY1O1cl
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) April 30, 2020
Mae negeseuon ‘Diolch i’r GIG’ – ynghyd â fflagiau enfys siâp calon – hefyd wedi’u peintio ar wyneb y ffordd ar hyd Ffordd Ddyfrllyd a Ffordd Croesnewydd, ger Ysbyty Maelor.
Peintio negeseuon ar ffyrdd i ddiolch i’n gweithwyr allweddol ???? https://t.co/AC4iQ0972f #Wrecsam pic.twitter.com/DOdtKjMz3n
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) April 29, 2020
Ac mae neges yn dweud ‘Diolch’ – i bob gweithiwr allweddol ar y rheng flaen – wedi’i pheintio ar wyneb y ffordd ar Ffordd yr Wyddgrug, sef un o’r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y dref.
Mae pobl wedi canfod ffyrdd newydd i dalu teyrnged i’r gweithwyr rheng flaen dros yr wythnosau diwethaf. Ac er fod dweud ‘diolch’ yn ymddangos fel rhywbeth bach, mae’n rhywbeth y gallwn ni ei wneud i roi gwybod i’r bobl hyn faint rydym yn eu gwerthfawrogi nhw.
Nodyn Atgoffa – peidiwch â gyrru i’n parciau os gwelwch yn dda.
Wrth i’r penwythnos agosáu, cofiwch beidio â gyrru yn ein parciau os gwelwch yn dda.
Ni ddylai unrhyw un fod yn gwneud hynny, mae’r Llywodraeth wedi nodi’n gwbl glir y dylem ‘aros yn lleol’ wrth wneud ymarfer corff.
Ond os ydych yn ddigon lwcus i fyw ger un o’n parciau (yn ddigon agos i gerdded), mae canllawiau pwysig iawn i chi eu dilyn.
Darllenwch yr erthygl a rannwyd gennym yn ddiweddar.
Arhoswch yn ddiogel y penwythnos hwn.
Nodyn atgoffa – cynllun y taliad uniongyrchol prydau ysgol am ddim
A yw eich plant yn cael prydau ysgol am ddim?
Byddwn yn cyflwyno system newydd ddydd Llun, 4 Mai fel rhan o’n hymateb parhaus i Covid-19.
Bydd arian yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, a gallwch yna ei ddefnyddio i brynu bwyd i’ch plant.
Byddwch yn cael taliad misol ar ddechrau bob mis sy’n cyfateb i £19.50 yr wythnos ar gyfer pob plentyn cymwys yn eich teulu.
Rydym wedi bod yn gofyn i bobl gofrestru erbyn heddiw er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli allan, ac rydym wedi derbyn ymateb rhagorol.
Fodd bynnag, os nad ydych chi wedi cofrestru eto, nid yw’n rhy hwyr.
Cofrestrwch erbyn dydd Gwener, 8 Mai, os gwelwch yn dda.
COFRESTRU NAWR
Ar ôl heddiw, ni fyddwch yn gallu casglu pecynnau ‘bwyd i fynd’ o’n pwyntiau dosbarthu ar draws y fwrdeistref sirol mwyach.
Cyflwynwyd y system ‘bwyd i fynd’ fel mesur dros dro er mwyn caniatáu amser i ddatblygu system newydd.
Felly …. sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer y taliadau uniongyrchol os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Briff swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19