Rydym ni oll wedi wynebu heriau a newidiadau amrywiol drwy gydol 2020 a 2021. Fodd bynnag, nid yw’r galw am amgylcheddau diogel i alluogi plant diamddiffyn yn Wrecsam nad ydynt yn gallu aros yn eu cartref genedigol am amryw o resymau i ffynnu wedi newid.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae gwasanaeth maethu Wrecsam wedi parhau i recriwtio gofalwyr maeth drwy gydol y pandemig, rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn cadw ymgeiswyr a staff yn ddiogel drwy gydol y broses. Rydym yn ymgymryd ag ymweliadau asesu a hyfforddiant ar-lein, ac rydym yn parhau i gynnig yr un lefel o gefnogaeth i bob ymgeisydd er gwaethaf Covid-19.
Peidiwch â gadael i’r pandemig oedi eich penderfyniad i faethu, gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i blant yn Wrecsam. Mae arnom ni angen gofalwyr maeth sy’n ofalgar, tosturiol ac amyneddgar i ofalu am blant yn Wrecsam. Ein nod yw cadw plant yn lleol, ac yn agos at eu ffrindiau, ysgol a chymunedau.
Am ragor o wybodaeth ar sut i fod yn ofalwr maeth, ymwelwch â’n gwefan neu ffoniwch i siarad gydag aelod o’r tîm.
https://www.wrecsam.gov.uk/service/gofal-cymdeithasol-i-blant/maethu
01978 295316
maethu@wrexham.gov.uk
CANFOD Y FFEITHIAU