Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych wrth i ysgolion ailagor ddydd Llun (12.04.21) ond nid ydym nôl i normal eto
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion gwych wrth i ysgolion ailagor ddydd Llun (12.04.21) ond nid ydym nôl i normal eto
Busnes ac addysg

Newyddion gwych wrth i ysgolion ailagor ddydd Llun (12.04.21) ond nid ydym nôl i normal eto

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 9, 2021 12:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Schools
RHANNU

Bydd ysgolion ledled Wrecsam yn croesawu eu disgyblion yn ôl ddydd Llun yn dilyn misoedd o amhariad yn sgil pandemig Covid-19, sy’n golygu bydd disgyblion ysgol yn gallu gweld, dysgu a chwarae gyda’u ffrindiau unwaith eto.

Cynnwys
  • Peidiwch ag ymgasglu wrth gatiau’r ysgol
  • Gwisgwch orchudd wyneb lle a phan fo’r angen
  • Mae swigod ysgolion ar gyfer ysgolion yn unig
  • Profi mewn Ysgolion
  • Peidiwch â rhannu ceir

Bydd rhai ysgolion yn cael diwrnodau hyfforddiant athrawon wythnos nesaf ond bydd eich ysgol yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiau os yw’n berthnasol.

Ond nid fusnes fel arfer fydd hyn, oherwydd bod canllawiau y mae’n rhaid eu dilyn gan ysgolion, disgyblion a rhieni er mwyn lleihau risg yr haint.

Cyn lleied o gyfleoedd a roddwn i’r feirws ledaenu, gorau oll fydd y cyfle o ddychwelyd yn ôl i ‘normal’ ac aros yno, sydd o fudd i bawb.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Rydym yn ymwybodol bod llawer o bethau nad allwn ei wneud o hyd, ond mae’n bwysig cofio, os ydym am osgoi cau ysgolion eto, a thrydedd don y feirws, dylem lynu at y canllawiau.

Roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol mynd drwy’r canllawiau allweddol eto, fel y gallwn wneud ein rhan i gadw’n hysgolion ar agor.

Peidiwch ag ymgasglu wrth gatiau’r ysgol

Rydym yn ymwybodol ei bod yn hawdd dechrau sgwrsio gyda rhieni eraill wrth ddanfon a chodi eich plant, ond cofiwch gadw pellter o 2m rhyngoch chi ac eraill. Bydd digon o amser i sgwrsio yn fuan, ond cyn hynny, cadwch eich pellter.

Gwisgwch orchudd wyneb lle a phan fo’r angen

Os ydych chi ar safle’r ysgol, dylech wisgo gorchudd wyneb. Mae’n rhaid i blant wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cymunedol hefyd, ac mewn rhai achosion, yn yr ystafell ddosbarth a’r meysydd chwarae hefyd.

Bydd eich ysgol yn rhoi gwybod i chi beth sy’n briodol yn eu hysgol nhw, felly cadwch lygad ar geisiadau ganddynt, a’u cefnogi yn eu hymdrechion i leihau amhariad pellach yn y dyfodol i chi, a phlant pobl eraill.

Mae swigod ysgolion ar gyfer ysgolion yn unig

Mae swigod ysgolion ar gyfer yr ysgol, ac ni ddylai’r plant gymysgu tu allan i’r ysgol. Nid dyma’r amser i gysgu drosodd yn nhai eich gilydd na chynnal partïon, felly byddwch yn amyneddgar a disgwyl nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Profi mewn Ysgolion

Bydd Profion Llif Unffordd yn cael eu darparu i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Ni ddylai unrhyw un sy’n cael prawf positif fynd i’r ysgol neu’r sefydliad. Mae’n rhaid iddynt hwy, a phawb maent yn byw gyda hwy hunan-ynysu yn syth (dolen i ganllawiau hunan-ynysu LlC) wrth wneud y canlynol:

  • adrodd canlyniad y prawf ar-lein
  • archebu prawf PCR dilynol drwy’r porth archebu ar-lein
  • hysbysu’r ysgol o’r canlyniad

Peidiwch â rhannu ceir

Mae’n demtasiwn rhoi lifft i rywun i, neu o’r ysgol hefyd. Peidiwch â gwneud hyn, efallai byddwch yn agored i ddal y feirws, neu ei basio i eraill.

Cofiwch y 4 peth pwysig iawn, Dwylo, Wyneb, Gofod, Awyr Iach.

Ysgolion

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid a recriwtio i’r gwasanaeth maethu Covid a recriwtio i’r gwasanaeth maethu
Erthygl nesaf Prince Philip Neges gan Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English