Bydd adeilad rhestredig Gradd II yn troi yn ganolbwynt i ddiwydiannau creadigol Wrecsam yn sgil buddsoddiad gwerth £2.9 miliwn o dan raglen adfywio Llywodraeth Cymru, sef Trawsnewid Trefi.
Mae’r Hen Lyfrgell yn Sgwâr y Frenhines wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers blynyddoedd, ond bellach fe fydd yn cael bywyd newydd ar ôl i Gyngor Wrecsam wneud cais llwyddiannus am gyllid i’w drawsnewid mewn i ‘ganolbwynt creadigol amlbwrpas’.
Fe fydd y ganolfan yn cefnogi entrepreneuriaeth ar draws y diwydiannau creadigol, ac fe fydd yn ganolbwynt i grwpiau, unigolion a busnesau lleol.
Fe fydd gan yr adeilad sy’n berchen i’r Cyngor, ‘dri llawr o greadigrwydd’, yn cynnwys:
- Gofod gweithio’n hyblyg a chydweithio i entrepreneuriaid
- Gofod swyddfa
- Stiwdios recordio
- Cyfleusterau cynhyrchu teledu
- Gweithdai – yn cynnwys ‘labordai’ modern gyda thorwyr laser a pheiriannau argraffu 3D
- Gofod arddangos
Mae disgwyl i’r prosiect gostio ychydig dros £4 miliwn, ac fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy ‘Gronfa Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill o gyllid grant yn cynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
“I fod yn ganolbwynt ar gyfer diwydiannau lleol, creadigol”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam, “Mae hyn yn newyddion ffantastig ac fe fydd yn trawsnewid tirnod rhestredig Graddfa II arbennig yng nghanol y ddinas i mewn i ganolbwynt cyffrous, gan sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol gan ailsefydlu ei hun i fod yn ganolbwynt ar gyfer diwydiannau lleol, creadigol.
Fe wyddom ni gyd bod canol dinasoedd angen esblygu er mwyn aros yn berthnasol mewn byd lle mae siopa, hamdden ac arferion dyddiol wedi newid, ac mae dod o hyd i ddibenion newydd ar gyfer adeiladau fel yr hen lyfrgell yn hollbwysig.
Fe hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect hwn gan fod Cyngor Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto yn cael cyllid grant ar gyfer prosiect cyffrous arall.
Mae yna bendant rhyw wefr yn ymwneud â Wrecsam ar hyn o bryd ac mae hi’n amser gwych i fuddsoddi a manteisio ar broffil Wrecsam sydd yn tyfu’n fyd-eang”.
Yr Hen Lyfrgell yw’r adeilad diweddaraf yn Wrecsam i fanteisio ar gyllid Trawsnewid Trefi, gan fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu miliynau o bunnoedd tuag at brosiectau eraill – yn cynnwys ailwampio Marchnadoedd Cyffredinol a Chigyddion ac Amgueddfa Wrecsam.
Bydd canolbwynt creadigol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi twf yn y dyfodol a meithrin talent yn y sector
Meddai Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James: “Mae troi eiddo gwag yn ddefnyddiol eto yn ganolog i’n rhaglen adfywio gwerth £125m, sef Trawsnewid Trefi.
“Rydw i’n falch gweld bod grant cyfalaf o £2.9 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan gefnogi’r gwaith o drawsnewid adeilad mor amlwg yng nghanol y ddinas i mewn i ganolbwynt diwydiannau creadigol.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut y bydd canolbwynt creadigol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi twf yn y dyfodol a meithrin talent yn y sector yma a helpu i sicrhau gwytnwch canol dinas Wrecsam”. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn nes ymlaen yn yr hydref, ac mae disgwyl iddo agor ddiwedd yr haf/dechrau hydref 2025.
Mae disgwyl i’r prosiect gostio ychydig dros £4 miliwn, ac fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy ‘Gronfa Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill o gyllid grant yn cynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!