Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi sôn wrthych sut rydym ni’n parhau i wella o ran ailgylchu yn Wrecsam.
Er bod rhai o’n ffigurau diweddar wedi bod yn galonogol, mae hi werth gofyn i’ch hun, allaf i wneud ychydig mwy?
Mae’r lluniau yn yr erthygl yma wedi’u tynnu ar ôl un casgliad bin du yn Wrecsam ac maent yn dangos enghreifftiau o’r gwastraff y casglom.
Yn y lluniau, fe welwch boteli plastig, poteli gwydr, jariau gwydr, caniau alwminiwm a bocsys cardfwrdd, fe allai’r cyfan fod wedi’u hailgylchu ar ymyl palmant.
Fe welwch chi hefyd ddeunyddiau fel tegell a detholiad o ddillad y gellir eu cymryd i un o’n canolfannau ailgylchu (gellir ailgylchu dillad ac esgidiau mewn bagiau plastig clir ar ymyl y palmant hefyd, ond rhaid cymryd eitemau mwy megis dillad gwely a llenni i’n canolfannau ailgylchu).
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod yn ailgylchu’n well Wrecsam a llawer o aelwydydd yn gwneud eu rhan, mae’r lluniau yma’n dangos fod yna ddigon o waith i wella.
“Mae’n destun pryder gweld faint o boteli, caniau a jariau a ddylai gael eu hailgylchu sydd yn cael eu taflu i finiau du.
“Mae pob darn o ailgylchu – waeth pa mor fach ydyw – yn gallu tyfu dros amser a helpu i wneud gwahaniaeth. Felly cyn i chi daflu unrhyw beth i’r bin du, gofynnwch i’ch hun…‘ydw i’n gallu ailgylchu hwn?’”
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
25,610 tunnell
Efallai nad ydych chi’n meddwl bod y poteli plastig, caniau, jariau gwydr ac ati rydych chi’n eu rhoi yn y bin du yn gwneud llawer o wahaniaeth ar y cyfan…
Ond fe wnaethom gasglu 25,610 tunnell o wastraff bin du yn ystod 2018/19 ac roedd llawer o’r deunyddiau yn bethau y gallai fod wedi cael eu hailgylchu ar ymyl palmant.
Mae plastig y gellir ei ailgylchu, papur, cardfwrdd a gwydr yn rhan fawr o’r ffigur yma ac mae’n rhywbeth y bydd angen i ni geisio ei ddileu yn Wrecsam at y dyfodol.
Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019
Mrs Jones…a Mr Smith…
Os byddwch chi’n llenwi eich bin du gyda phethau y gellir ei ailgylchu, mae’n debyg na fydd gennych lawer o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac mae’n beth da i fod â lle gwag yn eich bin du 🙂
Efallai bod yna sawl rheswm pam fod yr eitemau yma yn eich bin du… efallai nad ydych eisiau cymryd yr eitem allan i’ch blwch ailgylchu gan ei fod yn hwyr mis nos.
Ond bob tro y byddwch chi’n rhoi rhywbeth yn eich bin du y gellir ei ailgylchu; nid chi ydi’r unig un yn Wrecsam sydd yn gwneud…tynnwyd y lluniau yma ar ôl un rownd ac maent yn dangos faint o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu sydd mewn biniau du.
Mae’r poteli, caniau a jariau na wnaethoch eu hailgylchu yn cael eu hychwanegu at y rhai na ailgylchodd Mr Jones drws nesaf, sydd yn cael eu hychwanegu at y rhai na ailgylchodd Mr Smith ddau ddrws i lawr…rydych chi’n deall 😉
Felly’r tro nesaf y byddwch chi’n meddwl nad ydi’r botel blastig yn mynd i wneud gwahaniaeth, ceisiwch feddwl yn ehangach…petaem ni gyd yn cymryd cyfrifoldeb am ein hailgylchu ein hunain, gallai Wrecsam hawlio ei fod yn gwneud ei ran ar gyfer yr amgylchedd 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU