Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi…
Pobl a lleY cyngor

Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi…

Diweddarwyd diwethaf: Mai 9, 2019 4:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bin collection round
RHANNU

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi sôn wrthych sut rydym ni’n parhau i wella o ran ailgylchu yn Wrecsam.

Cynnwys
  • 25,610 tunnell
  • Mrs Jones…a Mr Smith…

Er bod rhai o’n ffigurau diweddar wedi bod yn galonogol, mae hi werth gofyn i’ch hun, allaf i wneud ychydig mwy?

Mae’r lluniau yn yr erthygl yma wedi’u tynnu ar ôl un casgliad bin du yn Wrecsam ac maent yn dangos enghreifftiau o’r gwastraff y casglom.

Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi...
Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi...
Credu na fyddai rhoi un botel blastig yn eich bin du yn gwneud gwahaniaeth? Fe synnech chi...

Yn y lluniau, fe welwch boteli plastig, poteli gwydr, jariau gwydr, caniau alwminiwm a bocsys cardfwrdd, fe allai’r cyfan fod wedi’u hailgylchu ar ymyl palmant.

Fe welwch chi hefyd ddeunyddiau fel tegell a detholiad o ddillad y gellir eu cymryd i un o’n canolfannau ailgylchu (gellir ailgylchu dillad ac esgidiau mewn bagiau plastig clir ar ymyl y palmant hefyd, ond rhaid cymryd eitemau mwy megis dillad gwely a llenni i’n canolfannau ailgylchu).

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod yn ailgylchu’n well Wrecsam a llawer o aelwydydd yn gwneud eu rhan, mae’r lluniau yma’n dangos fod yna ddigon o waith i wella.

“Mae’n destun pryder gweld faint o boteli, caniau a jariau a ddylai gael eu hailgylchu sydd yn cael eu taflu i finiau du.

“Mae pob darn o ailgylchu – waeth pa mor fach ydyw – yn gallu tyfu dros amser a helpu i wneud gwahaniaeth. Felly cyn i chi daflu unrhyw beth i’r bin du, gofynnwch i’ch hun…‘ydw i’n gallu ailgylchu hwn?’”

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

25,610 tunnell

Efallai nad ydych chi’n meddwl bod y poteli plastig, caniau, jariau gwydr ac ati rydych chi’n eu rhoi yn y bin du yn gwneud llawer o wahaniaeth ar y cyfan…

Ond fe wnaethom gasglu 25,610 tunnell o wastraff bin du yn ystod 2018/19 ac roedd llawer o’r deunyddiau yn bethau y gallai fod wedi cael eu hailgylchu ar ymyl palmant.

Mae plastig y gellir ei ailgylchu, papur, cardfwrdd a gwydr yn rhan fawr o’r ffigur yma ac mae’n rhywbeth y bydd angen i ni geisio ei ddileu yn Wrecsam at y dyfodol.

Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019

Mrs Jones…a Mr Smith…

Os byddwch chi’n llenwi eich bin du gyda phethau y gellir ei ailgylchu, mae’n debyg na fydd gennych lawer o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac mae’n beth da i fod â lle gwag yn eich bin du 🙂

Efallai bod yna sawl rheswm pam fod yr eitemau yma yn eich bin du… efallai nad ydych eisiau cymryd yr eitem allan i’ch blwch ailgylchu gan ei fod yn hwyr mis nos.

Ond bob tro y byddwch chi’n rhoi rhywbeth yn eich bin du y gellir ei ailgylchu; nid chi ydi’r unig un yn Wrecsam sydd yn gwneud…tynnwyd y lluniau yma ar ôl un rownd ac maent yn dangos faint o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu sydd mewn biniau du.

Mae’r poteli, caniau a jariau na wnaethoch eu hailgylchu yn cael eu hychwanegu at y rhai na ailgylchodd Mr Jones drws nesaf, sydd yn cael eu hychwanegu at y rhai na ailgylchodd Mr Smith ddau ddrws i lawr…rydych chi’n deall 😉

Felly’r tro nesaf y byddwch chi’n meddwl nad ydi’r botel blastig yn mynd i wneud gwahaniaeth, ceisiwch feddwl yn ehangach…petaem ni gyd yn cymryd cyfrifoldeb am ein hailgylchu ein hunain, gallai Wrecsam hawlio ei fod yn gwneud ei ran ar gyfer yr amgylchedd 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol “Dim Cefnogaeth” ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yn Wrecsam “Dim Cefnogaeth” ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yn Wrecsam
Erthygl nesaf Erioed wedi meddwl bod yn ofalwr maeth? Galwch heibio’r digwyddiad hwn.... Erioed wedi meddwl bod yn ofalwr maeth? Galwch heibio’r digwyddiad hwn….

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English