Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Credyd Pensiwn: gwiriwch nad ydych chi’n methu allan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Credyd Pensiwn: gwiriwch nad ydych chi’n methu allan
Pobl a lle

Credyd Pensiwn: gwiriwch nad ydych chi’n methu allan

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 7, 2024 5:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Llaw person hŷn yn gafael mewn teclyn mesurydd clyfar
RHANNU

Os ydych chi yn 66 oed neu’n hŷn ac ar incwm isel, yna fe allech chi fod yn gymwys am Gredyd Pensiwn. Fe fyddai hyn yn rhoi arian ychwanegol i chi ac yn eich cefnogi gyda chostau gwresogi.

Cynnwys
  • Beth yw Credyd Pensiwn?
  • Faint gallaf ei gael?
  • Beth arall y gallaf ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?
  • Sut ydw i’n gwneud cais?
    • Cam 1
    • Cam 2
    • Cam 3
    • Cam 4
  • Dyddiad cau (Y Taliad Tanwydd Gaeaf)

Erbyn hyn, mae’n rhaid i chi fod yn hawlio Credyd Pensiwn er mwyn gallu cael Taliad Tanwydd y Gaeaf.

Beth yw Credyd Pensiwn?

Budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd ar incwm isel. Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm i gyrraedd lefel gofynnol wythnosol.

Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae yna hefyd ganllaw Credyd Pensiwn hawdd i’w ddarllen ar GOV.UK (sydd yn egluro popeth mewn iaith fwy syml).

Faint gallaf ei gael?

Mae Credyd Pensiwn yn werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn.

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:

  • Eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
  • Eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner

Os yw’ch incwm yn uwch, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys I gael Credyd Pensiwn os oes gennych anabledd, rydych yn gofalu am rywun, mae gennych gynilion neu mae gennych gostau tai.

Beth arall y gallaf ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?

Os cewch Gredyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:

  • Y Taliad Tanwydd Gaeaf
  • Help gyda chostau gwresogi drwy’r Cynllun Gostyngiad
    Cartrefi Cynnes a Thâl Tywydd Oer
  • Budd-dal tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
  • Cymorth ar gyfer llog morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo
  • Gostyngiad Treth Gyngor
  • Trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
  • Help gyda thriniaeth ddeintyddol y GIG, sbectol a chostau trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych chi’n cael math penodol o Gredyd Pensiwn
  • Gostyngiad ar y gwasanaeth ailgyfeirio Post Brenhinol os ydych yn symud tŷ

Sut ydw i’n gwneud cais?

Cam 1

Defnyddiwch y gyfrifiannell cyflym ar-lein i wirio cymhwysedd a faint y gallech ei gael.

Cam 2

Sicrhewch bod y wybodaeth ganlynol wrth law:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
  • Manylion banc

Cam 3

Ewch i gov.uk/credyd-pensiwn i wneud cais ar-lein.

Fel arall, gallwch ffonio llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

Cam 4

Fe’ch hysbysir drwy’r post pan fydd eich cais wedi’i asesu.

Dyddiad cau (Y Taliad Tanwydd Gaeaf)

Diolch i reolau ôl-ddyddio Credyd Pensiwn, mae’n bosibl gwneud cais am Gredyd Pensiwn ac ôl-ddyddio’r hawliad hyd at 3 mis – cyhyd â bod hawl yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf i wneud cais a dal i fod yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf yw Rhagfyr 21, 2024.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Wythnos Mynd Ar-lein: 2 ddigwyddiad cyngor digidol am ddim i’w cynnal yn Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol A box of Kelloggs Cornflakes Cyngor Wrecsam yn croesawu buddsoddiad £75 miliwn mewn ffatri grawnfwyd
Erthygl nesaf holding s Tîm Cymorth Tai Wrecsam – Beth maen nhw’n ei wneud?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English