Rydym ni’n galw ar bawb i fod yn gyfrifol am eu sbwriel eu hunain wrth iddynt fanteisio ar barciau a mannau prydferth y Sir yn ystod gwyliau’r haf.
Mae cyfraddau sbwriel wedi cynyddu ar draws Cymru wrth i gyfyngiadau Covid barhau i gael eu llacio, ac wrth i’r tywydd wella. Mae gweithredoedd y lleiafrif wedi cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o natur. Maent hefyd wedi rhoi straen ychwanegol ar weithwyr y Cyngor sydd wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig i gadw mannau agored yn lân a diogel tra’n cynnal gwasanaethau hanfodol eraill.
Rydym ni wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru i annog pobl i wneud y peth cywir wrth iddynt wneud y mwyaf o’u haf. Er mwyn atal y biniau rhag cael eu gorlenwi, mae pawb yn cael eu hannog i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw a’u taflu yno.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd David A Bithell: “Mae gennym fannau hardd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ond maent yn cael eu difetha gan bobl hunanol sy’n gwrthod mynd â’u sbwriel adref gyda nhw.
“Nid yn unig y mae hyn yn gwneud i’r ardaloedd yma edrych yn flêr ac anhrefnus, mae hefyd yn beryglus i fywyd gwyllt. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi os nad oes bin sbwriel ar gael. Does dim esgusodion ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i edrych ar ôl yr amgylchedd sydd o’n cwmpas.”
Mae’r ymgyrch yn cael ei redeg fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu ac i ofalu am yr amgylchedd.
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae sbwriel yn cael effaith pell gyrhaeddol ar ein cymunedau. Yn ôl Cadwch Gymru’n Daclus, os nad yw llefydd yn cael eu cadw’n lân a thaclus mae’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel, mae’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol, yr ymdeimlad o falchder mewn cymunedau, mae’n atal twf economaidd a thwristiaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, “Mae pawb ohonom wedi methu ein hoff fannau, ac mae hi’n hanfodol bod ein parciau, mannau gwyrdd a thraethau gwerthfawr yn cael eu cadw’n lân a thaclus i bawb eu mwynhau.
“Mae gan bawb ran i’w chwarae. Nid yw’n dderbyniol disgwyl i rywun arall bigo’r sbwriel rydych chi’n ei greu i fyny.
“Pan fyddwch chi allan, crëwch atgofion, nid sbwriel – os ydi’r biniau’n llawn, cymerwch eich sbwriel adref gyda chi.”
I gael gwybod mwy, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.cadwchgymrundaclus/caru-cymru
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN