Text scam warning

Rydym wedi derbyn adroddiadau newydd o bobl yn derbyn negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad iddynt ar Dreth y Cyngor.

Twyll ydi’r rhain!

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Maent yn ffurfiau cyffredin o dwyll ac mae’n rhaid i ni bwysleisio eto nad yw’r negeseuon testun na’r galwadau ffôn yn wir.

Rydym yn gwybod bod unrhyw beth sy’n dweud ei bod yn bosib eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn gallu ymddangos yn atyniadol, a gall fod yn demtasiwn i ddilyn negeseuon o’r fath neu roi gwybodaeth dros y ffôn.

Yn syml -nid ydym yn anfon negeseuon testun ynglŷn ag ad-daliadau Dreth y Cyngor nac yn gwneud galwadau ffôn i drigolion am eu Treth y Cyngor

Felly, gallwch fod yn sicr bod unrhyw neges destun neu alwad ffôn sy’n dweud wrthych eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn amheus.

Fel gydag unrhyw dwyll, dylech ystyried ambell reol syml –

Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, peidiwch byth â rhoi unrhyw fanylion – fel cyfrineiriau neu rif cyfrif banc – a chofiwch fod gennych hawl i anwybyddu unrhyw negeseuon amheus. Os cysylltir â chi dros y ffôn peidiwch â rhoi na chadarnhau unrhyw fanylion. Yn hytrach na hynny dywedwch wrthynt y byddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth isod i wirio’r manylion.

Ond beth os byddaf yn meddwl fy mod mewn credyd?

Os ydych yn meddwl eich bod mewn credyd gyda’ch cyfrif Treth y Cyngor, yna mae yna ffordd syml iawn i gael gwybod.

Ffoniwch ein llinell gymorth ariannol ar 01978 298992 neu e-bostiwch counciltax@wrexham.gov.uk

Fe fyddant yn hapus iawn i wirio eich cyfrif a rhoi unrhyw gymorth rydych ei angen.

Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN