Ydych chi wrth eich bodd yn lluniadu, peintio, crefftio, treulio amser yn dyfeisio cymeriadau, gwneud animeiddiadau, gwneud gemwaith, neu weithgareddau crefft eraill.
Ymunwch â Phrosiect Celf Criw Celf a rhoi hwb i’ch creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau mewn amgylchedd â chymorth.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Byddwch yn gallu mynychu chwe Gweithdy Celf, derbyn eich pecyn deunyddiau celf eich hun, cael arddangos eich gwaith celf yn Llyfrgell Wrecsam a mynd ar daith i Oriel Mostyn yn Llandudno.
Bydd dau grŵp:
1 – Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY
2 – Canolfan Gymunedol Y Parciau, Parc Bellevue, Wrecsam, LL13 7LY
Cost: £38 (lleoedd wedi’u hariannu ar gael – Beverley.Jepson@glyndwr.ac.uk )
(Mae’r pris yn cynnwys pob un o’r chwe dosbarth meistr, eich Pecyn Deunyddiau Celf eich hun, eich gwaith yn rhan o Arddangosfa Criw Celf a thaith i Oriel Mostyn yn Llandudno)
Dyddiadau Criw Celf:
- Dydd Sadwrn – Ebrill 22ain
- Dydd Sadwrn – Ebrill 29ain
- Dydd Sadwrn – Mai 13eg
- Dydd Sadwrn – Mai 20fed
- Dydd Sadwrn – Mai 27ain
- Dydd Sadwrn – Mehefin 3ydd
Bydd y sesiynau rhwng 10am a 3pm
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: Beverley.Jepson@glyndwr.ac.uk
Cofrestrwch rŵan