Fe wyddom fod yna lawer o ddiddordeb cyhoeddus wedi bod yn swydd ein Prif Weithredwr yn ystod y misoedd diwethaf – ac mae hynny’n ddealladwy.
Rydym yn falch o allu rhoi gwybod i chi fod Ian Bancroft wedi ei benodi i’r rôl yng nghyfarfod y Cyngor llawn neithiwr.
Bydd yn ymuno â Chyngor Wrecsam fis Awst.
Dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf mae Ian wedi gweithio mewn sawl rôl fel arweinydd mewn sefydliadau cyhoeddus a hynny mewn mannau fel Manceinion, Glannau Merswy a Gogledd Ddwyrain Cymru.
Ers 2014 mae wedi bod gyda’n cymdogion yn Sir y Fflint fel Prif Swyddog gan arwain ar newidiadau i nifer o raglenni strategol mawr.
“Hynod gyffrous am gyfleoedd newydd yn Wrecsam”
Fel un o drigolion Wrecsam bydd Ian gyda’i swydd newydd yn dychwelyd yn broffesiynol i dir ei gartref.
Dywedodd Ian: “Rwy’n teimlo’n hynod gyffrous am y cyfleoedd newydd sydd gen i yma yn Wrecsam. Dyma fy nghyngor lleol, a thra rwy’n gwybod y bydd yna heriau i ddod, rwy’n falch iawn o’r ffaith y byddaf yn gweithio gyda phawb yma er budd pawb yn Wrecsam.
“Fel gwas cyhoeddus ymroddedig gyda dros 25 mlynedd o brofiad, rwy’n gwybod fod gen i lawer i’w gynnig i’r rôl ac rwy’n barod i wynebu’r heriau all ddod gyda’r rôl.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn amlwg yn falch iawn gyda phenodiad Ian, ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn ddiweddarach y flwyddyn hon.”
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r aelodau etholedig a eisteddodd ar y Panel Penodiad am eu cymorth yn ystod y proses penodi, y ogystal â Clare Field, y Prif Weithredwr dros dro, ac ein timau Adnoddau Dynol a Chyfreithiol.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL