Mae hi’n wythnos ‘Croeso i’ch pleidlais’ yr wythnos hon, gan roi cyfle i blant 14-16 oed ddysgu mwy ynghylch sut mae democratiaeth yn gweithio.
Ar 5 Mai eleni, gall unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn bleidleisio yn yr etholiadau lleol, ac i nifer o bobl ifanc dyma fydd y tro cyntaf iddynt gael pleidleisio. Mae wythnos ‘Croeso i’ch pleidlais’ yn gyfle i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ynghylch sut y gallwch chi bleidleisio ac i bwy y gallwch chi bleidleisio.
Mae Gwefan y Comisiwn Etholiadol i bobl ifanc yn cynnwys llwyth o wybodaeth sy’n dangos sut mae gwleidyddiaeth a democratiaeth yn effeithio ar bobl ifanc a phopeth o’u hamgylch nhw. O ba mor hir byddwch chi’n aros mewn addysg, i reolau rhentu, o argaeledd 5G, i ba mor aml caiff eich bin ei gasglu.
Ar hyn o bryd, gall mwy o bobl bleidleisio yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Bydd plant 16 ac 17 yn cael pleidleisio yn etholiadau lleol eleni. Nid oes ots lle cawsant eu geni na beth yw eu cenedligrwydd, cyn belled â’u bod yn breswylydd yng Nghymru.
Os byddwch chi’n 16 oed erbyn 5 Mai 2022, neu os oes gennych chi blentyn a fydd, tarwch olwg ar safle’r Comisiwn Etholiadol.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL