Gwahoddir clybiau chwaraeon yn Wrecsam i wneud cais am gyllid o gronfa “Cymru Actif” sydd wedi’i lansio gan Chwaraeon Cymru.
Mae’r cyllid hwn ar gael i ddiogelu chwaraeon cymunedol wrth iddynt baratoi i ailddechrau gweithgareddau’n ddiogel pan fyddant wedi cael caniatâd i wneud hynny yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Gall clybiau wneud cais am grantiau o rhwng £300 a £50,000 dan gronfa “Cymru Actif”*.
Mae’r cyllid ar gael diolch i’r Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru’n actif nawr ac yn y dyfodol.
“Gwneud cais am Gyllid “Cymru Actif”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Mae hwn yn newyddion da i glybiau chwaraeon cymunedol sy’n parhau i ddioddef yn ariannol o effeithiau’r coronafeirws. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol er lles ein cymunedau ac maen nhw’n darparu gwasanaeth gwerthfawr a gwych i’n pobl ifanc. Byddwn i’n annog cynifer ag sy’n bosibl i wneud cais am gyllid “Cymru Actif” er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu a’u bod yn barod pan fyddant yn cael caniatâd i ailddechrau eu gweithgareddau.”
Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma: https://www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif/
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost activewrexham@wrexham.gov.uk.
*Bydd rhaid i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau mwy na 10k neu 20% os ydynt yn fwy na £25k.
CANFOD Y FFEITHIAU