Mae Cyngor Wrecsam yn cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd wedi eu hanelu at sefydliadau a busnesau lleol.
Ariennir y cynlluniau gan Gronfa Ffyniant y DU a’r nod yw cefnogi prosiectau sy’n hybu cyfleoedd bywyd, balchder lleol a datblygu economi fwy ffyniannus, arloesol, cynaliadwy a chynhyrchiol yn Wrecsam.
Bydd un o’r cynlluniau hefyd yn helpu perchnogion eiddo neu dir a datblygwyr i edrych ar ddefnydd newydd ar gyfer safleoedd ac adeiladau nad ydynt yn cael llawer o ddefnydd ar draws y fwrdeistref sirol. Bydd gwelliannau cyfalaf i safleoedd ac adeiladau a nodwyd trwy astudiaeth ddichonoldeb hefyd yn gymwys i gael cyllid.
Cyfanswm yr arian grant sydd ar gael ar draws y pedwar cynllun grant yw £4,865,071 ac mae’r cyngor yn galw ar fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol i ymgeisio.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais lawn ohono.
“Os oes gennych brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a’ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.
“Rydym eisiau i’r arian hwn weithio’n galed i Wrecsam, ac felly rydym angen clywed gan bobl sydd â syniadau da a all wir wneud gwahaniaeth.”
Mae’r pedwar cynllun ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb o 25 Medi a dyma nhw:
Cronfa Pobl a Sgiliau
Bydd hwn yn cefnogi prosiectau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg, cyflogaeth a TG.
Y nod yw helpu pobl i wella eu cyfleoedd cyflogaeth, ac mae’r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, ysgolion (cyn belled fod y prosiect o fudd i’r gymuned gyfagos), cynghorau cymuned a chyrff cyhoeddus.
Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y cyngor:
Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cronfa Safleoedd ac Eiddo
Bydd hwn yn darparu grantiau i ystod eang o astudiaethau dylunio, dichonolrwydd a hyfywedd i helpu i ganfod defnydd newydd ar gyfer eiddo a safleoedd sy’n bodoli, gan gynnwys safleoedd tir llwyd.
Y nod yw dod â bywyd newydd i adeiladau a thir sy’n cael eu tanddefnyddio neu nad ydynt yn cael eu defnyddio o gwbl, ac mae’r gronfa ar agor i berchnogion tir ac eiddo, darpar ddatblygwyr, busnesau, mentrau cymdeithasol a buddsoddwyr.
Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:
Grant Cymunedau a Lle
Bydd hwn yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n cryfhau balchder lleol, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau, mynediad at amwynderau lleol, a gwelliannau i gyfleusterau lleol a mannau agored.
Bydd hefyd yn cefnogi dulliau arloesol o atal troseddu a diogelwch cymunedol.
Mae’r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, cynghorau cymuned ac ysgolion (cyn belled fod y prosiect o fudd i’r gymuned gyfagos).
Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:
Cronfa Allweddol Cymuned a Lle | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant Busnes Wrecsam
Pwrpas y grant hwn yw annog Mentrau Bach a Chanolig sy’n hyfyw yn ariannol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i gychwyn, ehangu neu wella perfformiad.
Gall y cynllun gefnogi, fel ad-daliad, hyd at 50% o’r costau ar gyfer prosiectau cyfalaf a / neu wariant refeniw arbenigol cymwys.
Rhaid i’r grant a wneir cais amdano amrywio o £3,000 i £50,000. Mae’n rhaid bodloni o leiaf dau o amcanion y cynlluniau grant, gyda’r allbynnau yn gymesur i’r gwerth grant a ofynnwyd amdano.
Mwy o wybodaeth ar ein gwefan:
Cronfeydd Ffyniant Gyffredin y DU | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam