Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru
Pobl a lle

Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2023 5:29 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru
RHANNU

Wrth i Barc Gwledig Tŷ Mawr ddod yn safle Meysydd Chwarae Cymru eleni, bydd pob un o’n Parciau Gwledig wedi ennill y statws, sy’n golygu na chânt byth eu gwerthu na’u defnyddio ar gyfer adeiladu, ac felly gall pobl Wrecsam eu defnyddio a’u mwynhau am byth a bydd mannau gwyrdd ar gael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I ddathlu’r llwyddiant hwn rydym yn cynnal digwyddiad yn Nhŷ Mawr ddydd Sadwrn 23 Medi o hanner dydd ymlaen, gan gynnwys gwasg afalau ag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo lle bydd cyfle i wneud eich sudd afal ffres eich hun, yn ogystal â difyrrwch mewn Dosbarth Coetir yn dysgu am y rhyfeddodau yn y perthi, chwilota am bethau i’w bwyta, coginio a’u defnyddio er lles ein hiechyd. Wedi hynny bydd yno goginio o amgylch y tân gyda Lea o’r Dosbarth Coetir, a fydd yn gwneud Elicsir Einir Ysgaw a Jam Mwyar Duon heb unrhyw siwgr, yn llawn blas a maeth!

Mae Cyhydnos yr Hydref ar 23 Medi hefyd, yn ogystal â dechrau ‘Tymor Hel Hadau’ y Cyngor Coed. Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth am yr holl wahanol hadau coed y gellir dod o hyd iddynt ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, a bydd cyfle i bobl greu celf naturiol i fynd adref â nhw. Beth am alw draw a gweld faint ydych chi’n ei wybod?

Byddwn hefyd yn dathlu ein henwebiad ar gyfer Coeden y Flwyddyn ac yn annog pobl i bleidleisio dros y goeden drwy’r ddolen hon: Tree of the Year – Woodland Trust. Os credwch chi bod y goeden hon yn haeddu ennill Coeden y Flwyddyn gydol y Deyrnas Gyfunol, pleidleisiwch rŵan! Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw i warchod coed a choedwigoedd gydol y sir drwy ein prosiect Cysylltiadau Coetir sydd wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Argyfwng Coed. Dewch i ddysgu mwy am bwysigrwydd coed a choedwigoedd i fywyd gwyllt a phobl, a dweud pam rydych chi’n meddwl bod Coed yn Bwysig.

Meddai Helen Griffiths, Prif Weithredwr Meysydd Chwarae Cymru: “Mae parciau’n gwneud lles i bobl. Maent yn llesol i’n hiechyd corfforol a meddyliol, maent yn dod â chymunedau ynghyd ac yn creu cysylltiad rhyngom ni a’r byd naturiol o’n cwmpas ni.

“Felly rydym i gyd yn gyfrifol am helpu i warchod ein mannau gwyrdd am byth, ac rwy’n falch bod Cyngor Dinas Wrecsam yn dangos hynny drwy warchod eu deg o barciau gwledig ar ben y nifer o barciau a mannau gwyrdd eraill y maent wedi’u diogelu â ni o’r blaen.”

I gael mwy o wybodaeth am gefnogi Meysydd Chwarae Cymru – yr unig elusen yn y Deyrnas Gyfunol sy’n gwarchod parciau a mannau gwyrdd, ewch i’r wefan Work with us | Fields in Trust.

Rhannu
Erthygl flaenorol 25-29 Medi Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi)
Erthygl nesaf Wrexham city centre - aerial view Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English