Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd yn Wrecsam
Pobl a lleBusnes ac addysg

Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 26, 2023 9:35 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham city centre - aerial view
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn cyhoeddi pedwar cynllun grant newydd wedi eu hanelu at sefydliadau a busnesau lleol.

Cynnwys
  • Cronfa Pobl a Sgiliau
  • Cronfa Safleoedd ac Eiddo
  • Grant Cymunedau a Lle
  • Grant Busnes Wrecsam

Ariennir y cynlluniau gan Gronfa Ffyniant y DU a’r nod yw cefnogi prosiectau sy’n hybu cyfleoedd bywyd, balchder lleol a datblygu economi fwy ffyniannus, arloesol, cynaliadwy a chynhyrchiol yn Wrecsam.

Bydd un o’r cynlluniau hefyd yn helpu perchnogion eiddo neu dir a datblygwyr i edrych ar ddefnydd newydd ar gyfer safleoedd ac adeiladau nad ydynt yn cael llawer o ddefnydd ar draws y fwrdeistref sirol. Bydd gwelliannau cyfalaf i safleoedd ac adeiladau a nodwyd trwy astudiaeth ddichonoldeb hefyd yn gymwys i gael cyllid.

Cyfanswm yr arian grant sydd ar gael ar draws y pedwar cynllun grant yw £4,865,071 ac mae’r cyngor yn galw ar fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol i ymgeisio.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais lawn ohono.

“Os oes gennych brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a’ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.

“Rydym eisiau i’r arian hwn weithio’n galed i Wrecsam, ac felly rydym angen clywed gan bobl sydd â syniadau da a all wir wneud gwahaniaeth.”

Mae’r pedwar cynllun ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb o 25 Medi a dyma nhw:

Cronfa Pobl a Sgiliau

Bydd hwn yn cefnogi prosiectau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg, cyflogaeth a TG.

Y nod yw helpu pobl i wella eu cyfleoedd cyflogaeth, ac mae’r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, ysgolion (cyn belled fod y prosiect o fudd i’r gymuned gyfagos), cynghorau cymuned a chyrff cyhoeddus.

Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y cyngor:

Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cronfa Safleoedd ac Eiddo

Bydd hwn yn darparu grantiau i ystod eang o astudiaethau dylunio, dichonolrwydd a hyfywedd i helpu i ganfod defnydd newydd ar gyfer eiddo a safleoedd sy’n bodoli, gan gynnwys safleoedd tir llwyd.

Y nod yw dod â bywyd newydd i adeiladau a thir sy’n cael eu tanddefnyddio neu nad ydynt yn cael eu defnyddio o gwbl, ac mae’r gronfa ar agor i berchnogion tir ac eiddo, darpar ddatblygwyr, busnesau, mentrau cymdeithasol a buddsoddwyr.

Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:

Cronfa Allweddol Grant Cyfalaf a Dichonoldeb Safleoedd ac Adeiladau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Grant Cymunedau a Lle

Bydd hwn yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n cryfhau balchder lleol, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau, mynediad at amwynderau lleol, a gwelliannau i gyfleusterau lleol a mannau agored.

Bydd hefyd yn cefnogi dulliau arloesol o atal troseddu a diogelwch cymunedol.

Mae’r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, cynghorau cymuned ac ysgolion (cyn belled fod y prosiect o fudd i’r gymuned gyfagos).

Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:

Cronfa Allweddol Cymuned a Lle | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Grant Busnes Wrecsam

Pwrpas y grant hwn yw annog Mentrau Bach a Chanolig sy’n hyfyw yn ariannol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i gychwyn, ehangu neu wella perfformiad.

Gall y cynllun gefnogi, fel ad-daliad, hyd at 50% o’r costau ar gyfer prosiectau cyfalaf a / neu wariant refeniw arbenigol cymwys.

Rhaid i’r grant a wneir cais amdano amrywio o £3,000 i £50,000. Mae’n rhaid bodloni o leiaf dau o amcanion y cynlluniau grant, gyda’r allbynnau yn gymesur i’r gwerth grant a ofynnwyd amdano.

Mwy o wybodaeth ar ein gwefan:

Cronfeydd Ffyniant Gyffredin y DU | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru
Erthygl nesaf Golau Gwyrdd ar gyfer Prosiect Amgueddfa Mawr Golau Gwyrdd ar gyfer Prosiect Amgueddfa Mawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English