Mae Cronfa Gwaddol Ieuenctid wedi buddsoddi £3.5 miliwn i beilota dull therapiwtig i ddiogelu plant diamddiffyn ar draws pedwar ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r rhaglen therapiwtig ddwys yn y cartref o’r enw Therapi Aml-Systemig ar gyfer Camdriniaeth ac Esgeulustod Plant (MST-CAN), yn gweithio gyda’r holl deulu i leihau’r risg i blant a chefnogi rhianta diogel ac effeithiol.
Yn ystod y peilot, bydd cefnogaeth yn cael ei roi i deuluoedd yn Leeds, Sandwell, Wrecsam a Sir y Fflint lle mae plant 6-17 oed mewn risg o fynd i ofal yn sgil esgeulustod a/neu gamdriniaeth gorfforol. Bydd therapyddion wedi’u hyfforddi yn gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd yn eu cartrefi i fynd i’r afael â phryderon diogelwch presennol yn ogystal â phroblemau sylfaenol, megis trawma a chamddefnyddio sylweddau, a all fod yn cyfrannu tuag at y niwed, gan ddefnyddio ystod o ddulliau yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae plant sydd mewn risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn aml yn wynebu cyfuniad cymhleth o heriau, a gall eu teuluoedd ei gweld yn anodd cael mynediad at y cymorth iawn. Mae MST-CAN wedi’i ddylunio i ddarparu gofal estynedig, cyfannol, sy’n helpu teuluoedd i lywio’r anawsterau hyn ac adeiladu’r gallu i ofalu am eu plant yn ddiogel.
Bydd y rhaglen yn cael ei gynnal dros 6-9 mis a’i ddarparu gan Dîm Multisystemic Therapy UK and Ireland yn Ne Llundain ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Maudsley, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Leeds, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Plant Sandwell MST-UKI a’i werthuso gan Brifysgol Caint mewn cydweithrediad â Phrifysgol Teesside.
Mae’r peilot yn rhan o ymrwymiad ehangach Cronfa Gwaddol Ieuenctid i adeiladu sail dystiolaeth o ran beth sy’n gweithio i gadw plant yn ddiogel rhag niwed a sicrhau y gall plant dyfu mewn cartrefi sefydlog a chefnogol.
Dywedodd Ciaran Thapar, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cronfa Gwaddol Ieuenctid: “Nod y gwaith yw cynyddu diogelwch plant, gwella sgiliau rhianta a mynd i’r afael â materion sylfaenol ar gyfer oedolion a phlant. Mae’r dystiolaeth gynnar yn addawol, a bydd y peilot yn ein helpu ni i ddeall mwy am effeithiau posibl y dull hwn.”
Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint “Mae awdurdod lleol Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o’r prosiect peilot pwysig hwn, a fydd yn ymchwilio a datblygu ein dealltwriaeth o sut allwn ni weithio gyda phlant a theuluoedd, fel eu bod yn cael eu cefnogi i wneud, a chynnal, newid cadarnhaol. Mae ein cyfranogiad yn dangos ein hymrwymiad cryf i helpu teuluoedd gyda chefnogaeth amserol ac effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda theuluoedd a dysgu o ymchwil er mwyn llywio sut allwn gynnig y gefnogaeth orau bosibl.”
Dywedodd Nicola Holmes, Rheolwr Hwb Ymyrraeth o Ymddiriedolaeth Plant Sandwell: “Rydym wrth ein boddau bod Ymddiriedolaeth Plant Sandwell yn rhan o grant Cronfa Gwaddol Ieuenctid. Rydym yn gwybod bod effaith ar blant sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn gorfforol yn anferth ac mae cael y gwasanaethau iawn i gefnogi plant a’u teuluoedd ar yr amser iawn yn bwysig, a gall arwain at newid cadarnhaol a chanlyniadau gwell. Bydd yr ymchwil yn edrych ar y gwasanaethau sydd eisoes yn Sandwell, ynghyd â’r tîm MST-CAN newydd, i weld beth sy’n gweithio orau i blant a’u teuluoedd. Ar gyfer teuluoedd yn Sandwell, credwn y bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae’r tîm MST-CAN yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o wasanaethau ac yn adeiladu partneriaethau pwysig er mwyn cefnogi plant a’u teuluoedd yn y ffordd orau bosibl. Maent eisoes yn gweithio gyda nifer o deuluoedd yn Sandwell, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r astudiaeth ac yn bwysicach, y canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Wrecsam yn gyffrous i fod yn rhan o’r peilot arloesol sydd wedi ein galluogi ni i ehangu ein cynnig Therapi Aml-systemig ar gyfer teuluoedd er mwyn cynnwys MST-CAN. Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi teuluoedd ymhellach a galluogi plant i aros yn ddiogel yng ngofal eu teuluoedd.”
Dywedodd yr Athro Simon Coulton o Brifysgol Caint: “Rwy’n falch o fod yn arwain y tîm ymchwil ar werthuso’r prosiect pwysig hwn sy’n cyd-weithio gyda Chronfa Gwaddol Ieuenctid a’r Awdurdodau Lleol i gyflawni’r gwaith hwn.”