Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)
Wrth i Gyllid a Thollau EM (CThEM) baratoi i anfon e-byst a negeseuon SMS at gwsmeriaid Hunanasesiad, mae’r adran yn eu hatgoffa i fod yn wyliadwrus ar ôl i CThEM gael gwybod am bron i 800,000 o sgamiau sy’n ymwneud â threth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae twyllwyr yn defnyddio Hunanasesiad i geisio dwyn arian neu wybodaeth bersonol gan unigolion di-fai. Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae CThEM wedi cael gwybod am bron i 360,000 o achosion o ad-daliadau treth ffug.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad yw 31 Ionawr 2022, ac mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid yn disgwyl clywed gan CThEM ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd mwy na 4 miliwn o e-byst a negeseuon SMS yn cael eu hanfon yr wythnos hon at gwsmeriaid Hunanasesiad, gan eu cyfeirio at arweiniad a chymorth, a’u hannog i feddwl am sut y maent yn bwriadu talu eu bil treth a cheisio cymorth os na allant dalu’r swm llawn erbyn 31 Ionawr.
Fodd bynnag, mae’r adran hefyd yn rhybuddio cwsmeriaid i beidio â chael eu twyllo gan e-byst, galwadau ffôn neu negeseuon testun maleisus, gan feddwl bod y rhain yn ohebiaeth ddilys gan CThEM sy’n cyfeirio at eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
e-bost sgam:
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Peidiwch byth â gadael i rywun eich rhuthro. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi gan ddweud ei fod yn gweithio i CThEM, ei fod am i chi drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol, byddwch yn wyliadwrus.
“Ni fydd CThEM yn eich ffonio gan fygwth eich arestio ar unrhyw adeg. Dim ond troseddwyr sy’n gwneud hynny.
“Mae sgamiau’n dod ar sawl ffurf. Mae rhai’n bygwth eich arestio ar unwaith am osgoi treth, mae eraill yn cynnig ad-daliad treth. Dylai cysylltiadau fel y rhain wneud i chi feddwl ddwywaith, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw’r e-bost, yr alwad ffôn neu’r neges destun yn ddilys, gallwch wirio’r cyngor ‘gwe-rwydo a sgamiau’ ar GOV.UK a chael gwybod sut i roi gwybod i ni amdanynt.”
Mae troseddwyr yn defnyddio negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun i geisio twyllo unigolion, ac mae’r negeseuon yn aml yn esgus eu bod yn dod oddi wrth y llywodraeth i wneud iddynt ymddangos yn ddilys. Maent am dwyllo dioddefwyr i drosglwyddo arian neu wybodaeth bersonol neu ariannol.
Gall cwsmeriaid roi gwybod am alwadau ffôn amheus gan ddefnyddio ffurflen ar GOV.UK; gall cwsmeriaid hefyd anfon e-byst amheus sy’n honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a negeseuon testun i 60599.
Mae gan CThEM dîm penodedig sy’n gweithio ar achosion o seiber-droseddu a throseddu dros y ffôn. Maent yn defnyddio technolegau arloesol i atal cyfathrebu camarweiniol a maleisus rhag cyrraedd cwsmeriaid.
e-bost sgam:
Ers 2017, mae’r rheolaethau technegol hyn wedi atal 500 miliwn o negeseuon e-bost rhag cyrraedd cwsmeriaid CThEM.
Yn fwy diweddar, mae rheolaethau newydd wedi atal 90% o’r negeseuon SMS mwyaf twyllodrus rhag cyrraedd y cyhoedd, ac mae rheolaethau wedi’u rhoi ar waith i atal copïo a chamddefnyddio’r rhan fwyaf o rifau llinellau cymorth CThEM.
Mae CThEM hefyd yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesiad i wirio gwefannau a ffurflenni ar-lein ddwywaith cyn eu defnyddio i lenwi eu Ffurflen Dreth 2020/21. Gellir twyllo pobl i ddefnyddio gwefannau camarweiniol sydd wedi’u cynllunio i wneud i unigolion dalu am help i gyflwyno Ffurflenni Treth neu godi tâl arnynt i’w cysylltu â llinellau ffôn CThEM.
Dylai cwsmeriaid sy’n amau a yw gwefan yn ddilys fynd i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad a defnyddio’r Ffurflenni Treth sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL